HUGHES, THOMAS JONES (1822 - 1891), clerigwr a gramadegydd

Enw: Thomas Jones Hughes
Dyddiad geni: 1822
Dyddiad marw: 1891
Priod: Eleanor Hughes (née Brown)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a gramadegydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd ym Mangor, 11 Mehefin 1822, a'i addysgu yn Ysgol Friars. Aeth oddi yno i Goleg y Drindod, Caergrawnt, gan ymaelodi yn 1840; daeth yn ysgolor o'i goleg a graddio â'r clod uchaf mewn mathemateg. Cymerodd ei B.A. yn 1844, M.A. yn 1847. Ordeiniwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Bethell o Fangor, 1 Chwefror 1846, a chafodd urddau offeiriad 20 Rhagfyr yr un flwyddyn. Trwyddedwyd ef i guradiaeth Llanfaes ym Môn, ac yng Ngorffennaf 1850 aeth yn gurad i Laneurgain yn Sir y Fflint; oddi yno dyrchafwyd ef yn ficer Llanasa, Awst 1860, a bu yno hyd 1870, pryd y symudodd i Lanfair Dyffryn Clwyd. Bu yno'n ficer hyd ei farw, 5 Chwefror 1891, a chladdwyd ef yno. Priododd Eleanor, merch W. H. Brown o Gaer, 27 Mehefin 1865, a bu iddynt fab. Gwasanaethodd fel arolygydd ysgolion yn yr esgobaeth i'r esgob Short o Lanelwy, a chyfrannodd nifer o ysgrifau i'r Wasg Eglwysig Gymraeg, yn arbennig i'r Haul a'r ' Geiryddiaeth y Beibl Cymraeg,' 1885, 1886, a ' Cymraeg y Llyfr Gweddi,' 1887, 1888. Yn eisteddfod Aberffraw, 1849, enillasai wobr am draethawd ar 'Cystrawen a Theithi Cymraeg a Saesneg.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.