HUGHES
,
JONATHAN
(
1721
-
1805
),
bardd
;
g.
17 Mawrth 1721
yn
Pengwern
ger
Llangollen
. Dywedir iddo ddechrau
prydyddu
yn 15 oed, a chynhyrchodd swm enfawr o farddoniaeth yn y dull a oedd yn gyffredin yn y
18fed g.
, sef cerddi cynganeddol i'w canu ar alawon adnabyddus y dydd. Ceir carolau plygain a phethau eraill o'i waith yn almanaciau
‘
Philomath
,’
Cain
Jones
, ac eraill yn gyson o tua
1755
hyd ddiwedd y ganrif. Cyfansoddai hefyd ar y mesurau caeth traddodiadol; ysgrifennodd awdl goffa i
Richard
Morris
yn
1780
. Ysgrifennodd o leiaf un anterliwt,
Y Dywysoges Genefetha
,
1744
. Cyhoeddodd gyfrol o'i waith yn
1778
o dan y teitl,
Bardd a Byrddau
. Yr oedd yn un o eisteddfodwyr mwyaf selog y
18fed g.
Yr oedd yn yr eisteddfod
beirdd
a gynhaliwyd yn
Selatyn
yn
1748
. Yn naturiol yr oedd yn bur amlwg yn yr eisteddfod a gynhaliwyd yn
Llangollen
yn
Ionawr 1789
, ac yn
eisteddfod Corwen
ym Mai y flwyddyn honno ef oedd un o'r tri (
‘
Twm o'r Nant
’
a
‘
Gwallter Mechain
’
oedd y lleill) y methwyd penderfynu rhyngddynt, a gorfod gyrru eu gwaith i
Lundain
i'w feirniadu gan y
Gwyneddigion
. Yr oedd hefyd yn
eisteddfod y Bala
ym
Medi 1789
. Ond ni bu llawer o lwyddiant ar ei gynigion fel bardd eisteddfod; canu carolaidd y
18fed g.
oedd ei ddifyrrwch, ac â'r math hwnnw o farddoniaeth yr ymddifyrrodd fwyaf o lawer. Bu f.
25 Tachwedd 1805
. Yr oedd ei fab, o'r un enw (
1753
-
1834?
),
yntau'n
brydydd
, a chyhoeddodd
Gemwaith Awen, Gwaith Beirdd Collen
, yn
1806
. Ei waith ef ei hun oedd y rhan fwyaf o gynnwys y gyfrol. Yr oedd mab iddo yntau,
Jonathan
Hughes
arall eto (
1797
-
1860?
), ymysg y
beirdd
mewn
eisteddfod yn Llangollen
yn
1833
.
Llyfryddiaeth:
-
C. Ashton
,
Hanes Llenyddiaeth Gymreig, 1651–1850
.
[1893?]
, 407;
-
Cymru
,
1897
, 94;
-
Yr Haul
,
1893
, 165;
-
Bye–Gones, relating to Wales and the Border
Counties
,
1891-2
, 128;
-
Y Llenor
, xiv, 11; xv, 88.
Awdur:
Y Prifathro / Syr Thomas Parry, D.Litt., (1904-85), Bangor /
Aberystwyth