Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HUGHES , JOHN ( 1787 - 1860 ), archddiacon Ceredigion, clerigwr efengylaidd, a llenor ; g. yn Llwynglas , Llanfihangel Geneu'r Glyn . Addysgwyd ef yn Ystrad Meurig yn nyddiau John Williams , mab Yr Hen Syr .’ Wedi hynny, bu'n athro cynorthwyol yn ysgol Putney , ger Llundain , am 18 mis. Ordeiniwyd ef yn ddiacon ac offeiriad gan esgob Llanelwy yn 1811 . Ei guradiaeth gyntaf oedd Llandrillo-yn-Rhos , ger Colwyn . Bu yno chwe mlynedd a'r wlad ogylch yn tyrru i'w wrando. Derbyniodd guradiaeth Foleshill , ger Coventry , yn 1817 . Yn 1822 (ar farw'r periglor) anfonwyd deiseb gan y plwyfolion at y noddwr ( Arglwydd Eldon ) yn deisyfu ei benodi i'r fywoliaeth; gwrthodwyd y cais oherwydd syniadau efengylaidd y curad poblogaidd. Derbyniodd guradiaeth Deddington , ger Rhydychen . Cyrchai efrydwyr y brifysgol i wrando arno, ac yn eu plith John Henry Newman . Daeth yn ôl i Gymru , gan dderbyn perigloriaeth Aberystwyth , a churadiaeth Llanbadarn Fawr yr un pryd, a thrachefn ficeriaeth y lle olaf yn 1833 . Ei waith cyntaf oedd adeiladu eglwys fawr S. Michael . Cyn hyn ( 1832 ) daeth cais ato i ddilyn William Howels [q.v.] yr efengylydd poblogaidd, yn Long Acre , Llundain , eithr dewisodd aros yng Nghymru . Rhoddes esgob Tyddewi ( Jenkinson ) iddo gadair brebendaidd yng Ngholeg Crist , Aberhonddu , ac yn 1859 penodwyd ef gan Connop Thirlwall yn archddiacon Ceredigion . Daliodd y swyddi hyn hyd ei farw ar 1 Tachwedd 1860 . Bu yn gefnogydd cyson i Gymdeithas y Beiblau , ac ymwelodd â phentrefi Lloegr (i ddechrau) a Chymru i ddadlau ei hawliau o bulpud ac oddi ar lwyfan. Cyhoeddodd gyfrolau o bregethau yn Gymraeg a Saesneg . Bu darllen cyffredinol ar ei Nabl , casgliad o salmau ac emynau Cymraeg . Cyfieithodd Esboniad ‘ Henry a Scott ’ hyd dros lyfr Deuteronomium , a Myfyrdodau yr Esgob Hall ar y Testament Newydd . Ymysg ei gynhyrchion Saesneg y pwysicaf ydyw Esther and her People , 1832 ; Ruth and her Kindred , 1839 ; The Self Searcher , 1848 . At y cwbl, rhestrid ef ymysg pregethwyr mawr ei gyfnod.

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru , 1870 ;
  • Williams , Enwogion Ceredigion , 1869 ;
  • bywgraffiad gan ei fab, 1864 .

Awdur:

Y Parch. Daniel Williams, (1878-1968), Llangollen