Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HUGHES , JOHN , neu HUGH OWEN ( 1615 - 1686 ), Jesiwit ; g. Mehefin 1615 , mab ieuengaf Hugh Owen , Gwaenynog [q.v.] . Ymddengys iddo dreulio peth amser pan yn ieuanc gyda'i dad yng nghastell Rhaglan , ond ym mis Rhagfyr 1636 aeth fel myfyriwr i'r Coleg Seisnig yn Rhufain . Ordeiniwyd ef yn offeiriad , 16 Mawrth 1640-1 , a daeth i Loegr , 28 Medi 1643 . Ymunodd â Chymdeithas yr Iesu yn Watten ger S. Omer , 1648 , ac yn 1650 dychwelodd i Loegr i genhadu . Treuliodd Hughes y gweddill o'i oes yng Nghymru a'r gororau; ceir ei enw yn 1650 ymhlith eraill o offeiriaid Jesiwitaidd a fynychai Goleg y Cwm (Coleg S. Francis Xavier ) yn Llanrhyddol , sir Henffordd ; ond yn ddiweddarach symudodd i ardal Treffynnon yn sir y Fflint , ac yno y bu f. 28 Rhagfyr 1686 . Cyhoeddodd yn Liége yn 1670 Allwydd neu Agoriad Paradwys i'r Cymry , cyfieithiad, gwych ei Gymraeg , o ddarnau o'r efengyl, catecismau ar rai o athrawiaethau arbennig Eglwys Rufain , gweddïau, etc. Efe hefyd a olygodd ac a fu'n gyfrifol am argraffu cyfieithiad ei dad, Hugh Owen , o De Imitatione Christi Thomas à Kempis dan y teitl Dilyniad Crist , 1684 .

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography , a'r awdurdodau a enwir yno;
  • T. Llechid Jones , Journal of the Welsh Bibliographical Society , iii, 5, 213, 215, 219;
  • John Fisher (gol.), Allwydd neu agoriad paradwys i'r Cymru hynny yw gweddiau, devotionau, cynghorion, ac athrawiaethau tra duwiol ac angentheidiol i bôb Christion yn mynnu agoryd y Porth a myned i mewn i'r Nef. Wedi eu cynnull o amryw lyfrau duwiol, a'i cyfeithu [sic] yn Gymraeg neu wedi eu cyfansoddi , 1670 .

Awdur:

Emyr Gwynne Jones, M.A., (1911-72), Bangor