HUGHES, JAMES ('Iago Bencerdd '; 1831 - 1878), cerddor

Enw: James Hughes
Ffugenw: Iago Bencerdd
Dyddiad geni: 1831
Dyddiad marw: 1878
Rhiant: Ann Hughes
Rhiant: Robert Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Ysgubor Gerrig, Trefriw, Sir Gaernarfon - cofnodir ei fedydd yn eglwys Trefriw ar 23 Chwefror 1831. Dangosodd dalent arbennig at gerddoriaeth yn blentyn, a dysgodd ganu'r ffliwt, y feiolin, a'r delyn, a daeth yn chwaraewr medrus ar y delyn deirres a'r delyn bedal. Gwnaeth delyn iddo ei hun, a chanodd arni yn eisteddfod Llanrwst, 1874. Dysgodd lawer i ganu'r delyn, a daeth amryw ohonynt yn delynorion enwog. Bu'n byw ym Methesda, Llanrwst, Conwy, a Manceinion, Bu farw yn 1878 ym Manceinion, a chladdwyd ef ym mynwent Trefriw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.