HUGHES, HUGH (1693 - 1776; 'Huw ap Huw' neu 'Y Bardd Coch o Fôn'), bardd ac uchelwr

Enw: Hugh Hughes
Ffugenw: Huw ap Huw, Y Bardd Coch O Fôn
Dyddiad geni: 1693
Dyddiad marw: 1776
Priod: Ann Hughes (née Jones)
Rhiant: Margaret ferch David ap William Parry
Rhiant: Hugh Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac uchelwr
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Barddoniaeth; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Rhiannon Francis Roberts

O Lwydiarth Esgob ym mhlwyf Llandyfrydog, aelod gohebol o Gymdeithas y Cymmrodorion, ac un o gyfeillion y Morysiaid. Yn ôl J. E. Griffith, mab ydoedd i Hugh Hughes a Margaret, merch David ap William Parry o Fiwmares, barcer, a ganwyd ef 1 Awst 1693. Tua 1719 priododd Ann, merch Edward Jones o Rydyrarian, a ganwyd iddynt amryw o blant; bu hi farw ddechrau 1759. Rai blynyddoedd cyn diwedd ei oes symudodd o Lwydiarth Esgob i Fynydd y Gof Du, Caergybi, ac yng Nghaergybi y bu farw, 6 Mai 1776. Yno hefyd y claddwyd ef. Y mae ei ewyllys ar gael.

Ceir peth o'i farddoniaeth yn ei law ef ei hun yn Wynnstay MS 8 . Cyhoeddwyd 'Casgliad o Ganiadau o waith Huw Huws' (yn cynnwys ei Gywydd Annerch i Goronwy Owen a Chywydd Ateb enwog y bardd hwnnw) gyda gwaith Goronwy Owen a Lewis Morris yn Diddanwch teuluaidd Huw Jones o Langwm, 1763, ac ymddangosodd 'Caniadau Defosionol' [sic] o'i eiddo yn y mesurau rhyddion mewn llyfryn o'r enw Diddanwch, iw Feddiannydd (Dublin, 1773). Ceir cywydd arall yn Dewisol Ganiadau yr Oes Hon, 1759, a charol plygain yn Blodeu-gerdd Cymry, 1759. Cyfieithodd ddau os nad tri llyfr i'r Gymraeg, sef Deial Ahaz, wedi ei Hysprydoli (Caerfyrddin, 1773), cyfieithiad o lyfr gan David Tucker, a Rheolau Bywyd Dynol (Dulun, 1774), cyfieithiad o lyfr Robert Dodsley, The Oeconomy of Human Life; rhestrir 'Deddfau Moesoldeb Naturiol. Wedi ei gyfieithu gan Hugh ab Hugh,' 1773, yn Llyfryddiaeth y Cymry, ond nid ymddengys fod copi ar gael heddiw. Argraffwyd llythyrau ato ac oddi wrtho yn Cymm., xlix.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.