HUGHES, GRIFFITH (1775 - 1839), gweinidog Annibynnol

Enw: Griffith Hughes
Dyddiad geni: 1775
Dyddiad marw: 1839
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn Pengwaun, Cwmifor, plwyf Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. Prentisiwyd ef yn y grefft o gylchwr gydag Evan Rhydderch, Llansadwrn, tad Nani Jones, Crugybar, a chymeriad amlwg gyda chrefydd yn y cylch. Yr oedd ei feistr, fel ei fam, yn aelod yng Nghrugybar, lle y derbyniwyd yntau yn aelod. Daeth i amlygrwydd mawr fel gweddïwr yn y cyrddau ar hyd y tai. Ar gymhelliad Isaac Price, Llanwrtyd, a wyliai dros yr achos yng Nghrugybar, dechreuodd bregethu; aeth y gair ar led am ei ddawn pregethu eithriadol. Pregethai yn Rhydybont pryd y torrwyd y newydd ar ganol yr oedfa fod y Ffrancwyr wedi glanio yn Abergwaun (1797). Derbyniodd alwad i'r Groeswen ac urddwyd ef 22 Chwefror 1797. Yno y treuliodd ei oes weinidogaethol i gyd ac y bu farw 20 Gorffennaf 1839. Llafuriodd yn ddiarbed. Yn ei ddyddiau ef y daeth y Groeswen yn fam llawer achos newydd ac yn ganolfan ysbrydol y cymdogaethau. Mynych y teithiai i swcro'r preiddiau bychain o Ferthyr i Gaerdydd ac o Fedwas hyd yr Efail Isaf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.