HUGHES
,
EVAN
(‘
Hughes Fawr
’; bu f.
1800
),
curad ac awdur
.
Brodor o
Llangeitho
ydoedd, medd rhai. Bu'n
gurad
yn
Llaniestyn
,
Llandegwning
,
Penllech
yn
Llŷn
,
1762-4
, a
Llanfihangel y Pennant
,
Eifionydd
,
1772-9
. Arferai
bregethu yn y mynwentydd
yn y lleoedd hyn gan fod nifer y rhai a ddeuai i'w wrando yn fwy nag a allai fynd i mewn i'r eglwysi. Yr oedd yn
bleidiol iawn i'r ysgolion cylchynol
a gynhelid yn
Llŷn
ac
Eifionydd
, ac ysgrifennodd at
Madam
(
Bridget
)
Bevan
yn
1773
yn dwyn tystiolaeth i'w llwyddiant a gofyn am estyniad tymor yr ysgol yn
Llanfihangel y Pennant
. Gallai ateb cwestiynau
esgob Bangor
ar ei ymweliad yn
1776
a dywedyd bod 70 yn cymuno bob mis yn
Llanfihangel
a thua 200 y Pasg. Yr oedd yn gyfeillgar â
Robert
Jones
,
Rhoslan
[q.v.]
. Yn
1779
symudodd i fod yn
gurad
yn
Ysbyty Ifan
, a thra bu yno pregethai yn aml yng nghartrefi
Methodistiaid
. Tua'r flwyddyn
1783
aeth i
Drawsfynydd
yn
gurad
ac, ar
23 Mehefin 1792
, i
Llanuwchllyn
, lle y bu f. tua chanol mis
Mai 1800
. Cyhoeddodd
Duwdod Crist
,
1777
, a
Rhai Hymnau Newyddion o Fawl i'r Oen
,
1783
. Ceir rhai emynau o'i waith mewn llawysgrifau (e.e. yn rhai o ysgriflyfrau ‘
Dafydd Sion Siams
’ [q.v.]
).
Llyfryddiaeth:
-
D. E. Jenkins
,
Life of Thomas Charles
, 1908
, i, 384, 404; ii, 403, 405, 409;
-
Cymru
, xii, 251-4;
-
Llais Rhyddid
,
1918
, 133-4;
-
Yr Haul
,
1867
;
-
Welch piety, or, A farther account of the
circulating Welch charity schools … to which are annexed
testimonials relating to the masters and scholars of the
said schools; in a letter to a friend
, 1742-60
,
1773-4
.
Awdur:
Robert (Bob) Owen, O.B.E., M.A., (1885-1962), Croesor