HUGHES, DAVID (1800 - 1849), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: David Hughes
Dyddiad geni: 1800
Dyddiad marw: 1849
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn Amlwch, sir Fôn, mab amaethwr cefnog. Cafodd addysg dda yng nghylch ei gartref; bu hefyd mewn ysgol yn Lerpwl. Ymaelododd yng nghapel y Tabernacl, Lerpwl, o dan weinidogaeth John Breese, a dechreuodd bregethu yno. Wedi iddo fod yng Ngholeg Caerfyrddin, 1824-28, urddwyd ef yn weinidog eglwys Heol y Felin, Casnewydd-ar-Wysg, 1 Ionawr 1829. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach urddwyd ef (11-13 Mehefin 1839) yn weinidog Trelech, Sir Gaerfyrddin. Cyhoeddodd Holwyddoreg gwerthfawr at wasanaeth ysgolion Sul, a bu'n gweithio'n ddyfal am flynyddoedd ar eiriadur cyffredinol ond ni orffennwyd mohono. Bu farw 20 Chwefror 1849.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.