HUGHES, CHARLES (1823 - 1886), cyhoeddwr

Enw: Charles Hughes
Dyddiad geni: 1823
Dyddiad marw: 1886
Priod: Catherine Hughes (née Lewis)
Plentyn: Adelaide Lewis (née Hughes)
Rhiant: Anne Hughes (née Jones)
Rhiant: Richard Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyhoeddwr
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Thomas Bassett

Ganwyd 3 Mawrth 1823, mab Richard ac Anne Hughes, Wrecsam. Derbyniodd addysg yn y Fairfield Academy ac yn ysgol ramadeg Bridgnorth. Bu am bedair blynedd yn dysgu crefft y cyhoeddwr yn swyddfa Simpkin and Marshall, Llundain (1844-8), ac ar ôl gorffen ei brentisiaeth dychwelodd i dŷ cyhoeddi ei dad yn Church Street, Wrecsam. Fe'i dewiswyd yn gynrychiolydd i'r gynhadledd heddwch yn Frankfurt-Main yn 1848. Bu'n ustus a chynghorydd i'w dref a'i sir, yn llywydd Cymdeithas Rhyddfrydwyr Wrecsam, ac yn ŵr blaenllaw ynglŷn â nifer o gymdeithasau a chwmniau eraill. Priododd Catherine Lewis (1830 - 1867), Penucha, Caerwys. Drwy ei reddf ddisgybledig a'i ymroad i'w waith fe welwyd cynnydd amlwg yn nhŷ cyhoeddi Hughes a'i Fab, a sylfaenwyd yn 1820 gan ei dad. Bu farw yn ei gartre, Brynhyfryd, Wrecsam, 24 Mawrth 1886.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.