R. J. Derfel [q.v.] a'i dysgodd yn y cwmni i werthfawrogi'r Gymraeg , a thraddodiadau a hanes Cymru . Ymosodai ar y cyfenwau Saesneg ; gosododd ‘ Derfel ’ fel cyfenw ar ôl ei enw bedydd, Robert Jones Derfel ; gofynnodd i John Hughes ei ddilyn, ond gosod ‘Ceiriog’ rhwng y ‘John’ a'r ‘Hughes’ a wnaeth ef — John Ceiriog Hughes .
Datgeiniad oedd ‘ Idris Fychan ’ ; bu'n casglu ceinciau a ‘hen benillion’ fel Edward Jones , ‘ Ifor Ceri ,’ ac eraill o'i flaen. Oddi wrtho ef y cafodd Ceiriog y chwiw casglu ceinciau , a bu yn eu casglu drwy ei oes. Casglodd hefyd hanes y ceinciau a hanes telynorion , a chasglodd hwiangerddi . Bwriadai gyhoeddi pedair cyfres o ‘Alawon Cymreig,’ ond un a gyhoeddodd, Cant o Ganeuon: Yn Cynwys, Y Gyfres Gyntaf o Eiriau ar Alawon Cymreig , ac y mae ganddo yn Y Bardd a'r Cerddor restr o 1,195 ohonynt, a daliodd fod rhwng 60 a 100 o geinciau dienw. Ni ellir deall barddoniaeth Ceiriog ar wahân i'r casglu ceinciau, oherwydd ei amcan ef fel bardd oedd llunio geiriau ar geinciau ; troi'r ceinciau yn ganeuon. Ymdriniodd ef ei hun â'r grefft hon o lunio geiriau ar geinciau yn Y Bardd a'r Cerddor , ‘ Awgrymiadau Ynghylch Ysgrifenu Caneuon a Geiriau i Gerddoriaeth .’ Er nad oedd Ceiriog yn deall techneg miwsig, yr oedd ganddo, yn ôl ‘ Idris Fychan ,’ y ddawn i ddal ‘anianawd’ yr alaw, a'r ddawn i roi ‘ysbryd’ y gainc mewn corff o eiriau. Y mae'r geiriau yn ei gerddi yn fwy na geiriau; y maent yn eiriau wedi eu priodi â nodau. Yn Songs of Wales ( Brinley Richards ) y gwelir cerddi Ceiriog yn eu cyfle iawn. Yn ei lythyrau fe welir iddo lunio rhai caneuon ar gais cantorion, ac adroddiadau ar gais adroddwyr, i'w canu a'u hadrodd mewn cyngherddau a chyfarfodydd adloniadol. Bardd y piano oedd Ceiriog ; bardd y gyngerdd.
Yn 1865 dychwelodd Ceiriog i Gymru , i Lanidloes , yn orsaf-feistr y Cambrian Railway ; yn 1870 aeth i Dywyn , ac yn 1871 penodwyd ef yn arolygydd ar y rheilffordd a oedd newydd ei hagor o Gaersws i'r ‘ Van .’ Yn ymyl Trefeglwys trigai Nicholas Bennett [q.v.] , Glanyrafon , ac i hwn, ‘ Cymydog Caredig a Chyfaill Mynwesol i John Ceiriog Hughes ,’ y cyflwynodd ‘ Llyfrbryf ’ y casgliad olaf o gerddi Ceiriog , Yr Oriau Olaf. Bu f. John Ceiriog Hughes 23 Ebrill 1887 , a chladdwyd yn Llanwnog .
David Gwenallt Jones, M.A., (1899-1968), Aberystwyth