HOWELLS, WILLIAM (1818 - 1888), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac ail brifathro Coleg Trefeca

Enw: William Howells
Dyddiad geni: 1818
Dyddiad marw: 1888
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac ail brifathro Coleg Trefeca
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Gwilym Arthur Edwards

Ganwyd yn y Bont-faen, Sir Forgannwg, Hydref 1818. Addysgwyd ef yn Ysgol yr Eryr, y Bont-faen, a phrentisiwyd ef fel 'ironmonger' yn ei dref enedigol ac oddi yno aeth i Gaerdydd a Chichester. Penderfynodd droi i'r weinidogaeth a bu dan addysg yn Cheshunt a Threfeca (1842-5). Bu'n fugail yn Abertawe (1845-51), Zion, Caerfyrddin (1851-7), a Windsor Street, Lerpwl (1857-65), eglwys y bu dau brifathro arall, David Charles Davies a Thomas Charles Edwards, yn ei bugeilio'n ddiweddarach.

Ym Medi 1865 penodwyd ef yn brifathro ac yn athro diwinyddiaeth yn Nhrefeca, gyda John Harris Jones yn athro yn y clasuron. Yr oedd yn llwyddiannus fel athro ac yn bregethwr neilltuol o dderbyniol er iddo ei gyfyngu ei hun i eglwysi bychain Saesneg ac osgoi poblogrwydd. 'Efallai,' meddai un amdano, 'na chafodd Cymru erioed bregethwr mwy nag ef a oedd yn adnabyddus i gyn lleied o bobl.' Yn 1888 ymddiswyddodd, a bu farw 15 Tachwedd 1888.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.