HOWELS, WILLIAM (1778 - 1832), offeiriad efengylaidd

Enw: William Howels
Dyddiad geni: 1778
Dyddiad marw: 1832
Rhiant: Samuel Howels
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad efengylaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd Medi 1778, yn Llwynhelyg, gerllaw'r Bont-faen, Morgannwg, mab Samuel Howels. Addysgwyd ef yn Ysgol yr Eryr yn y Bont-faen, a Choleg Wadham, Rhydychen. Daeth i gyswllt â Dafydd Jones, Llan-gan a bu'n gurad iddo am dymor. Aeth i Lundain ar farwolaeth Dafydd Jones a bu yno'n gurad S. Ann, Blackfriars; dewiswyd ef hefyd yn ddarlithydd S. Antholin, Watling Street. Penodwyd ef yn weinidog capel eglwysig Long Acre yn 1817, ac yno y bu hyd ei farwolaeth ar 18 Tachwedd 1832. Claddwyd ef yn eglwys y Drindod Sanctaidd, Islington. Yr oedd yn bregethwr efengylaidd, huawdl. Cyhoeddwyd ei bregethau yn ddwy gyfrol yn 1834-6.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.