HOWELL, THOMAS (bu farw 1540?), Cymro o sir Fynwy a oedd yn farsiandwr yn Sbaen

Enw: Thomas Howell
Dyddiad marw: 1540?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: farsiandwr yn Sbaen
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Dyngarwch
Awdur: William Llewelyn Davies

ac a adawodd arian yn ei ewyllys (a wnaethpwyd ganddo yn 1540 yn Seville) er lles merched dibriod o'i dylwyth yng Nghymru. Gadawodd Howell 12,000 o 'duckats' a oedd i'w hanfon i wardeiniaid Drapers' Hall, Llundain, er mwyn eu buddsoddi (trwy brynu tir yn ninas Llundain) - ' …the said Wardeynes … to buy therewith 400 duckats of rent yearly for evermore - in possession for evermore … the said duckats [to] be disposed unto four maydens, being orphanes - next of my kynne and bludde - to their marriage … '

Am hanes pellach cronfa arian Howell a'r gwahanol ddedfrydiadau cyfreithiol yn eu cylch gweler T. Falconer, The Charity of Thomas Howell (London, 1860); digon yma ydyw ychwanegu i ysgol Howell yn Ninbych ac ysgol Howell yn Llandaf - y ddwy yn ysgolion canolradd i ferched - gael eu sefydlu tua 1859, ychydig dros 300 o flynyddoedd wedi i Thomas Howell wneuthur ei ewyllys.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.