HOPKIN, LEWIS (c. 1708 - 1771), bardd

Enw: Lewis Hopkin
Dyddiad geni: c. 1708
Dyddiad marw: 1771
Plentyn: Lewis Hopkin
Plentyn: Hopkin Hopkin
Rhiant: Lewis Hopkin
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awduron: Griffith John Williams, Robert Thomas Jenkins

Mab Lewis Hopkin o Lanbedr-ar-fynydd ym Morgannwg, un o ddisgynyddion y cwndidwr, Hopcyn Tomas Phylip o Gelli'r-fid. Dysgodd grefft saer coed, ac yr oedd yn feistr ar lawer o grefftau eraill. Pan oedd yn wr ifanc, symudodd i blwyf Llandyfodwg, ac yno, yn Hendre Ifan Goch, y bu ei gartref hyd ei farw yn 1771. Troes yn Anghydffurfiwr, ac yr oedd yn aelod (ac yn ddiacon, yn ôl rhai) yng nghapel y Cymer. Dywaid ei fab y byddai'n cynnal gwasanaethau yn nhai ffermydd y Blaenau, a bod ganddo bulpud a ddefnyddiai with bregethu yn yr ysgubor yn Hendre Ifan Goch. Yr oedd yn wr pwysig yng nghylchoedd Anghydffurfiol y Blaenau, a bu ei fab, Lewis, yn weinidog ar eglwys Annibynnol Bromyard yn sir Henffordd. Ond yr oedd hefyd yn ffigur amlwg yn yr adfywiad llenyddol a welwyd ym Morgannwg yn hanner cyntaf y 18fed ganrif. Ymroes i feistroli celfyddyd cerdd dafod, ac i drefnu eisteddfodau barddol tebyg i'r rhai a gynhelid yn y Gogledd. Gyrrodd rai o'i gynhyrchion i'r cylchgrawn, Trysorfa Gwybodaeth, 1770, ac yn 1813 cyhoeddodd ei fab-yng-nghyfraith, John Miles, gasgliad o'i weithiau prydyddol, a rhoi iddo'r teitl; Y Fel Gafod. Nid yw'n fardd mawr, ond dengys ei waith ôl yr ymdrech a wnaethai i astudio'r iaith, ac i feistroli'r gynghanedd a'r pedwar mesur ar hugain. Ef, yn ddiamau, oedd y gwr galluocaf a gysylltir â'r adfywiad hwn, a'r un a gafodd fwyaf o ddylanwad ar fywyd llenyddol Morgannwg yn yr oes honno. Ac ef oedd athro barddol Edward Evan, a chydnebydd ' Iolo Morganwg ' ei fod yn un o'r rhai a fuasai'n ei hyfforddi. Yr oedd yn wr tra diwylliedig. Mynnir ei fod yn dra chyfarwydd â llenyddiaeth Saesneg y 18fed ganrif, ac yr oedd ganddo lyfrau Lladin a Ffrangeg yn ei lyfrgell. Claddwyd ef yn Llandyfodwg, a chyhoeddodd ' Iolo Morganwg ' farwnad iddo yn 1772, o dan y teitl, Dagrau yr Awen.

Am hanes mab arall i Lewis Hopkin sef Hopkin Hopkin (1737 - 1754) ' Hopcyn Bach ' gweler Gent. Mag. 1754, 191, a Hopkiniaid Morgannwg, 108-11, a Peate : Guide to the Collection of Welsh Byegones yn A.G.C., 1929, 79.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.