HOPE, WILLIAM (fl. 1765), ' y Bardd Byddar '

Enw: William Hope
Ffugenw: Y Bardd Byddar
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Evan David Jones

o Dre Fostyn ym mhlwyf Whitford, Sir y Fflint. Ni wyddys pa bryd y ganwyd ef na pha bryd y bu farw. Y mae'r cwbl sy'n hysbys amdano i'w gael mewn detholiad o waith beirdd siroedd Fflint a Dinbych a gyhoeddwyd ganddo, yn 1765, o dan y teitl, Cyfaill i'r Cymro; neu, Lyfr o Ddiddanwch Cymhuysol, ei dowys Dyn ar Ffordd o Hyfrydwch; yn ganeuon, a charolau, ac englynion, hawddyw deuall, o waith Prydyddion Sir y Flint a Sir Ddimbech, o gasgliad W. Hope o Dre Fostyn. Argraffwyd y llyfr (148 tt.) yng Nghaerllon gan Read a Huxley, ac yr oedd ar werth gan W. Hope yn Sir y Fflint. Awgryma hyn y gallai W. Hope fod yn llyfrwerthwr teithiol. Ei gyfraniad ef i'r llyfr oedd dau englyn, rhagymadrodd, Carol Plygain, 1764, Cerdd yn erbyn Cybydd-dod, a Mawl i'r Prydyddion. Ar derfyn ei adran ef ei hun o'r gyfrol ceir y geiriau 'Terfyn Gwaith William Hope neu r Bardd Byddar.' Y mae'n weddol sicr mai camgyflead o argraffiad 1765 yw rhif 4 o dan 1769 yn Llyfryddiaeth y Cymry, ac na fu ail argraffiad.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.