HOMFRAY (TEULU), Penydarren, Merthyr Tydfil, meistri gweithydd haearn, etc.

FRANCIS HOMFRAY (1726 - 1798)

Wollaston Hall, swydd Worcester. Wedi iddo grynhoi cryn gyfoeth fel meistr gweithydd haearn yn swyddi Stafford a Worcester, a chan fod ganddo ddau fab egnïol a galluog - Jeremiah a Samuel, hwythau hefyd yn gyfarwydd â'r diwydiant haearn - ceisiodd Francis Homfray le arall y gallai dyfalbarhad ac ysbryd anturiaethus ei feibion ddatblygu ynddo, a chymerodd gan Anthony Bacon, Cyfarthfa, brydles ar waith lle yr oeddid yn tyllu gynnau mawr, a lle yr oedd ffwrndri, ffwrneisiau, etc. (Medi 1782). Cyrhaeddodd y meibion, gan ddwyn gyda hwynt weithwyr profiadol o ganolbarth Lloegr, ac aeth popeth yn ei flaen yn burion am gyfnod, a llwyddodd yr anturiaeth. Oherwydd iddynt gweryla ag Anthony Bacon, fodd bynnag, trosglwyddasant y brydles i David Tanner yn 1784. Yn yr un flwyddyn cymerodd y brodyr brydles ar ddarn o dir ag ynddo beth o'r mwyn haearn mwyaf cyfoethog yn yr ardaloedd hynny; gyda chymorth arian a chyngor eu tad, a help eu brawd THOMAS fel partner, adeiladasant ffwrnais ac adeiladau angenrheidiol eraill yn Penydarren, ar lan yr afon Morlais. Yn y gwaith hwn buont am flynyddoedd yn cynhyrchu llawer o haearn, a hwnnw o'r ansawdd gorau. Adeiladwyd plasty - Penydarren House - ar lan arall yr afon at wasanaeth y partneriaid.

Eithr daeth i ran y brodyr lawer o anawsterau ac o anhwylustod. Bychan oedd y 'cymeriad' i gyd o'i gymharu â'r darn helaeth o'r wlad yr oedd gweithydd Dowlais arno. Peth arall, gan fod gwaith Dowlais yn uwch i fyny afon Morlais, a oedd yn rhoddi dŵr i'r ddau waith, a chan ei fod yn anturiaeth hŷn na Penydarren, efe a oedd yn medru defnyddio dŵr yr afon yn gyntaf - ac yr oedd hyn yn fater o bwys mawr mewn cyfnod o sychter. Ychydig o lo hefyd a oedd gan waith Penydarren, ac felly bu raid cymryd lês glo gan waith Dowlais. Mewn un man yr oedd cwmni Dowlais yn codi glo a'r brodyr Homfray yn codi mwyn haearn. Y canlyniad fu cwerylon ac ymgyfreithio, a phartneriaid Penydarren yn colli'r dydd, fynychaf, yn yr ymgyfreithio.

Wedi llawer blwyddyn o gydweithio, penderfynodd y ddau frawd, Jeremiah a Samuel, cyfarwyddwyr-mewn-gofal gwaith Penydarren, chwilio am fan arall y gallent wario eu hynni ynddo.

JEREMIAH HOMFRAY (1759 - 1833), meistr gweithydd haearn

Trydydd mab Francis Homfray, a'r hynaf o'r ddau bartner yn Penydarren. Cychwynodd waith haearn Ebbw Vale; yr oedd dau ddyn arall gydag ef yn y cychwyn hwn. Daeth y gwaith yn enwog. Parhaodd cyswllt Jeremiah â gwaith Penydarren, eithr gadawodd ei gyfran ef yn y gwaith o reoli i'w frawd Samuel.

Priododd Jeremiah, yn 1787, Mary, merch John Richards, Llandaff, a bu'n byw am flynyddoedd lawer yn Llandaff House. Ymhen ychydig flynyddoedd achwynodd oblegid y modd unbenaethol yr oedd ei frawd Samuel yn gofalu am y gwaith yn Penydarren ac aeth yn gweryl rhyngddynt (1796). Tua'r un adeg gadawodd Jeremiah waith Ebbw Vale - gwaith y bu ef yn ei berchenogi'n gyfangwbl am rai misoedd hyd nes y daeth y Mri. Harford, Partridge & Co. yno fel rheolwyr, gan ei gyflogi ef fel gofalwr cyffredinol y gwaith.

Yn Abernant, yn nyffryn Aberdâr, y clywir sôn am Jeremiah nesaf. Gyda gŵr o'r enw Birch, peiriannydd profiadol, dechreuodd drefnu prydlesoedd ar diroedd mwnawl yn Abernant, Cwmbach, a Rhigos (1800) a'u trosglwyddo i'r Mri. Tappenden. Erbyn 1803 yr oedd yn bartner yng ngwaith haearn Hirwaun, eithr gadawodd y maes hwn yn fuan. Dywedwyd amdano 'ei fod yn anturiaethwr diwyd yn niwydiant haearn De Cymru - yn trefnu cael prydlesoedd, yn ceisio partneriaid, ac yna, wedi cael y gweithydd ar waith, yn ymnelltuo… ' Yr oedd yn derbyn blwydd-dâl o £2,500 (i'w dalu iddo tra byddai byw) - o Benydarren, mae'n debyg - a swm hefyd o waith Abernant. Ond gan fod iddo deulu mawr ac yntau'n byw mewn steil gostus (yn enwedig tra bu'n siryf Morgannwg yn 1809-10 - bu hefyd yn gweithredu fel siryf yn 1810-1) - a'i fod hefyd yn cymryd prydlesoedd drudion ar diroedd glo a ffermydd yn ardal Pontypridd, ni bu'n hir cyn iddi fod yn gyfyng arno mewn ystyr ariannol. Yn y flwyddyn 1813 gwnaethpwyd ef yn fethdalwr; disgrifir ef yn yr adroddiad fel ' Sir Jeremiah Homfray, Kt., of Cwm Rhondda, coal-merchant, dealer, and chapman.' Fis Tachwedd y flwyddyn honno gwerthwyd ei gartref yn y Rhondda ynghyd â'i gynnwys, ac aeth yntau dros y môr i Boulogne er mwyn osgoi talu holl ofynion ei echwynwyr ac i fyw ar yr hyn a oedd yn weddill ganddo; yno y bu ei wraig farw yn 1830, ac yntau yn 1833, ac yno y'u claddwyd.

Prynodd JOHN HOMFRAY, ei fab, gastell Penilîn ('Penlline').

SAMUEL HOMFRAY (bu farw 1822), meistr gweithydd haearn

Brawd iau Jeremiah. Daeth yn unig reolwr gwaith llewyrchus Penydarren wedi'r flwyddyn 1789. Tua'r flwyddyn 1793 darganfu'r modd i wneuthur y 'finers metal' - peth pwysig yng ngwneuthuriad haearn bar - trwy wella ansawdd ac ychwanegu at faint y swm a wneid. Yr oedd yn un o arloeswyr y Glamorgan Canal, a brofodd yn ddull mor gyfleus o gario'r haearn gwneuthuredig trwm o'i gymharu â'r hen ddull o'i gludo ar gefnau mulod a cheffylau. Agorwyd y gamlas yn 1795; costiodd £103,000 a chyfrannodd Samuel Homfray £40,000. Wedi hynny bu'n un o brif gefnogwyr y mudiad i gael ffordd dram o Benydarren i Navigation (Abercynon yn awr), pellter o naw milltir. Ar hyd hon y llwyddodd Richard Trevithick i wneuthur yr hyn a gyfrifid yn amhosibl - peri cludo pum wagen yn cario 10 tunell o haearn a 70 o ddynion yn ôl cyflymdra o bum milltir yr awr. Dyma'r peiriant ager cyntaf a redodd ar ffordd haearn; yr oedd bet o £1,050 rhwng Homfray a Richard Crawshay ar yr amgylchiad (21 Chwefror 1804). Homfray oedd prif ysgogydd y cyngaws ym mrawdlys Henffordd (1795) a ddygwyd gan wŷr y comin yn erbyn y Dowlais Company; y diffynyddion a enillodd. Gorfu iddo dalu £300 o iawn ar ôl cyngaws athrod a ddug William Taitt (cwmni Dowlais) yn ei erbyn yn 1807. Yn 1811, ym mrawdlys Henffordd, dug Homfray a'i bartneriaid (yng ngwaith haearn Penydarren) gyngaws yn erbyn cwmni Dowlais gan achwyn arnynt eu bod yn rhwystro i afon Morlais lifo trwy fwrw iddi weddillion tanau, etc.

Priododd Samuel Homfray â Jane, merch Syr Charles Gould Morgan, y barwnig 1af, Tredegar Park, a gwnaeth hyn yn bosibl iddo gael prydles ar dir mwnawl gwerthfawr yn Tredegar - mewn cyswllt â Richard Fothergill a Matthew Monkhouse (1800). Yma eto, megis a gwnaeth ei frawd yn Ebbw Vale, cafodd gyfle i roi ei ffordd ei hun i'r ynni corff a meddwl yr oedd ganddo gymaint ohono trwy sefydlu gwaith haearn Tredegar. Llwyddodd yr anturiaeth hon gymaint nes bod y Monmouthshire Canal yn 1809 yn cludo 9,105 tunell o haearn o'r gwaith - mwy o lawer nag o unrhyw ddwsin o'r gweithydd eraill yn sir Fynwy heblaw Blaenavon.

Cyhoeddodd Homfray yn 1806 apêl am bleidleisiau etholwyr seneddol sir Frycheiniog eithr tynnodd ei enw'n ôl cyn diwrnod yr etholiad. Bu'n siryf sir Fynwy yn 1813; ym mis Mehefin 1818 fe'i hetholwyd yn aelod seneddol dros fwrdeisdref Stafford. Bu farw 22 Mai 1822 yn Llundain, a dygwyd ei gorff i Bassaleg i'w gladdu.

Bu ei fab hynaf, SAMUEL GEORGE HOMFRAY, a aned 7 Rhagfyr 1795 ac a fu farw 16 Tachwedd 1882, yn siryf sir Fynwy, 1841, ac yn aldramon a maer Casnewydd-ar-Wysg, 1854-5.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.