HOLBACHE (HOLBECHE, etc.), DAVID (fl. 1377-1423), cyfreithiwr, sefydlydd ysgol ramadeg Croesoswallt

Enw: David Holbache
Priod: Gwenhwyfar Holbache
Rhiant: Ieuan Goch ap Dafydd Goch ap Iorwerth ap Cynwrig ap Heilyn ap Trahaearn ab Iddon
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr, sefydlydd ysgol ramadeg Croesoswallt
Maes gweithgaredd: Addysg; Cyfraith
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ar waethaf ei gyfenw (na chafwyd hyd yn hyn esboniad arno), Cymro ydoedd; yn ôl yr ach yn Harl. MS. 4181 (Powys Fadog, iv, 93) a Peniarth MS 129 (gan Gutyn Owain) yr oedd yn fab i Ieuan Goch ap Dafydd Goch ap Iorwerth ap Cynwrig ap Heilyn ap Trahaearn ab Iddon, yr Heilyn uchod o Bentre Heilyn, yn Ellesmere; yr oedd ganddo diroedd yn Dudleston yn 'swydd y Waun'; yr oedd yn stiward tref ac arglwyddiaeth Croesoswallt ac (yn 1409) yn ddirprwy-stiward arglwyddiaeth Iâl a Maelor Gymraeg. Bu'n aelod, naill ai dros Amwythig neu dros sir Amwythig, mewn Seneddau rhwng Chwefror 1406 a Thachwedd 1417.

Colledwyd ef yn ddirfawr yn rhyfeloedd Owain Glyndŵr; yn ôl ei betisiwn yn 1406-7 (Rotuli Parliamentorum, iii, 600-1) yr oedd wedi colli 2,000 morc ar renti ei diroedd yng Nghymru, heblaw dioddef difrod o gryn 2,000 morc ar ei eiddo. Nid annaturiol felly fu iddo gwyno ei fod rhwng deufaen y felin - plaid Owain yn ei erlid, a'r deddfau seneddol gwrth- Gymreig yn gwahardd iddo freiniau Sais. Felly, cafodd gan y Senedd (Rotuli Parliamentorum, iii, 590; Calendar of Patent Rolls, 1405-8, 245, 298) ofyn i'r brenin nid yn unig ei ddigolledu mewn rhan drwy roi iddo dir a fforffetiwyd gan ryw Gymro 'gwrthryfelgar,' ond hefyd estyn dinasyddiaeth a breiniau Sais iddo, er ei fod 'yn Gymro cyfan, o'i dad ac o'i fam' (entier Galois).

A chofio'r holl hanes, anodd dros ben yw credu Stow (yn 1615) pan ddywed i Holbache wedyn ymbil â Harri i roi pardwn i Owain Glyndŵr. Eithr gwyddom i sicrwydd i Holbache wneud cyffelyb gymwynas â Chymro arall, sef Adam de Usk, oblegid dywed pardwn hwnnw (20 Mawrth 1411 - Cal. Pat. Rolls, 1408-13, 283) mai ar gais 'David Holbache, yswain' y rhoddwyd ef.

Rhwng 1418 a 1421 (nid yw'r dogfennau cynharaf ar gael) gwaddolodd Holbache ysgol ramadeg rad yng Nghroesoswallt, y gyntaf o'i bath yng Nghymru; chwanegwyd at y gwaddol gan ei weddw Gwenhwyfar. Profwyd ei ewyllys yn 1423; ni adawodd ond gweddw a merch.

Ar gam yr awgryma Leland mai ef oedd y 'David ' a sefydlodd yr 'Inn of Court' yn Holborn a enwid yn 'Thavies Inn' (Itinerary in Wales, arg. Toulmin Smith, 75).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.