HODGES, JOHN (1700? - 1777), rheithor

Enw: John Hodges
Dyddiad geni: 1700?
Dyddiad marw: 1777
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: rheithor
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

Gwenfo, Sir Forgannwg, o 1725 hyd 1777; Dywed nodiad yn Cardiff MS. 4877 mai yn 1700 y ganwyd ef, eithr ceir y dyfyniad a ganlyn yn yr Alumni Oxonienses: 'Hodges, John, s. Thomas, of Abbey, co. Monmouth, pleb. Jesus Coll., matric. 6 April 1720, aged 18; B.A. 1723, M.A. 1726.' Y tebygolrwydd yw mai John Hodges y dyfyniad uchod yw'r gŵr a wnaed wedi hynny yn rheithor Gwen-fo. Os felly, rhaid mai naill ai yn 1701 neu 1702 y ganwyd ef. Urddwyd ef yn ddiacon ar 20 Tachwedd 1724 gan esgob Rhydychen, ac yn offeiriad ar 11 Gorffennaf 1725 gan esgob Bryste. Ar 1 Gorffennaf 1725 cyflwynwyd ef gan Syr Edmund Thomas, barwnig, i reithoraeth Gwen-fo, a sefydlwyd ef ynddi ar 16 Gorffennaf yr un flwyddyn. Ar ôl 1740, os nad cyn hynny, yr oedd Hodges yn dal bywoliaeth S. Andrews Minor yn ogystal. Dangosodd Hodges gydymdeimlad parod â'r Diwygiad Methodistaidd, a gwahoddodd y ddau frawd Wesley bob un yn ei dro i bregethu yn eglwys Gwen-fo, Charles yn 1740 a John ym mis Gorffennaf 1745. Yr oedd Hodges yn bresennol yn y tair cynhadledd gyntaf a gynhaliwyd gan y Methodistiaid, yn Llundain ym Mehefin 1744, ym Mryste yn Awst 1745, a thrachefn ym Mryste ym Mai 1746. Pan letyodd yr iarlles Huntingdon aelodau'r gynhadledd gyntaf yn ei chartref yn Llundain, a John Wesley yn traddodi'r bregeth, yr oedd Hodges yn cynorthwyo yn y gwasanaeth. Mewn canlyniad i'w ddiddordeb cynyddol mewn cyfriniaeth, gwanhaodd ei frwdfrydedd tuag at y ddau frawd Wesley. Yn 1758, beirniadodd Hodges John Wesley am fod rhai o'i ysgrifeniadau dadleuol mor llym; cyhoeddodd Wesley ei lythyr yn yr Arminian Magazine. Pan bregethodd John Wesley drachefn yn eglwys Gwen-fo ar 28 Awst 1763 gwelodd fod brwdfrydedd Hodges wedi llwyr ddiflannu. Yn ôl Cardiff MS. 4877, bu Hodges farw yn 77 mlwydd oed, a chladdwyd ef yng Gwen-fo ar 5 Ebrill 1777. Cymysgir ef yn aml â John Hodges, periglor Clifton - y John Hodges hwnnw hefyd yn gyfaill i'r brodyr Wesley ac iddo ran yn eu 'Dyddiaduron.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.