Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HILL (TEULU), meistri gwaith haearn Plymouth , Merthyr Tydfil . RICHARD HILL I (bu f. 1806 ). Cawsai Richard Hill brofiad yng ngweithydd haearn Anthony Bacon [q.v.] ( Cyfarthfa a Hirwaun ) cyn iddo ddyfod yn bennaeth gwaith haearn Plymouth dros Bacon . Priododd Mary , chwaer Mrs. Bacon , a galwyd ei fab ieuengaf, a anwyd yn 1784 , yn Anthony Hill . Pan fu Bacon f., a'i blant i gyd o dan oed, rhoddwyd ei stad yng nghofal Llys y Siansri . Gyda chaniatâd y llys rhoddwyd prydles 15 1/2 mlynedd o ddydd Nadolig 1786 ar ffwrnais Plymouth i Richard Hill . Cytunodd Hill i gyflenwi Richard Crawshay , Cyfarthfa [q.v.] , â haearn brwd, ac er mwyn ychwanegu at y gwaith cymerth brydlesoedd eraill hefyd a gwnaeth gytundeb arall â Crawshay ynglŷn â chyflenwad o gerrig calch. Tua'r flwyddyn 1794 bu Hill mewn cryn helynt gyda phobl y Glamorgan Canal Navigation ; achwynai eu bod hwy yn cymryd dŵr o afon Taf at bwrpas y gamlas a bod eisiau'r dŵr hwnnw yn ei weithydd ef. Gwnaethpwyd pethau'n waeth oherwydd anghydfod a fu rhwng RICHARD HILL II , mab Richard Hill I , â cheidwad rhan o'r gamlas . Dyfarnwyd iawn-dâl i'r ceidwad yn sesiwn fawr sir Forgannwg , eithr yn y sesiwn a ddilynodd honno dyfarnwyd £300 yn iawn-dâl i'r tad oherwydd y golled a achoswyd i waith Plymouth gan awdurdodau'r gamlas. Yn 1799 daeth Thomas Bacon i'w oed. Gadawsai ei dad, Anthony Bacon , waith Plymouth iddo ef yn ei ewyllys. Cytunodd ef i drosglwyddo, ar delerau neilltuol, ei holl gyfran ef yn y gwaith i Richard Hill . Wedi cael y gwaith yn eiddo yn gyfan gwbl iddo'i hun aeth Richard Hill I yn ei flaen gyda'i gynlluniau. Gyda Richard Hill II cytunodd â chwmnïau gweithydd Dowlais a Penydarren i gael gwneuthur ffordd dram , at wasanaeth y tri chwmni, o'r gwaith hyd at Navigation ( Abercynon yn awr). Yn yr un flwyddyn, sef 1803 , cytunodd Hill (yr oedd yn beiriannydd profiadol) i wneuthur ffordd dram at wasanaeth y tri chwmni, y ffordd dram hon i gludo cerrig calch o chwareli Castell Morlais . Gan fod Richard Hill I a'i feibion ( Richard Hill II ac ANTHONY HILL ) yn awyddus i wella eu hamgylchiadau ac ychwanegu at eu pwysigrwydd fel meistri gwaith haearn , a chan nad oedd ganddynt ddigon o arian, penderfynasant gael partneriaid, a rhoes A. Struttle £15,000 a John Nathaniel Miers (mab-yng-nghyfraith Richard Hill I ) £5,000 at ei gilydd i ffurfio y ‘ Plymouth Forge Company ’ i ategu gwaith Hill a'i feibion. Aeth y gwaith yn ei flaen yn hwylus eithr bu Richard Hill I f. ar 20 Ebrill 1806 . Yn 1813 tynnodd Struttle a Miers eu harian yn ôl a daeth y tri brawd Richard Hill II , John Hill , ac Anthony Hill , yn bartneriaid. Eithr gorfu iddynt gael swm mawr o arian yn fenthyg gan y Mri. Wilkins [q.v.] , Brecon Old Bank . Bu Richard Hill II yn byw am gyfnod yn Llandaf ; gofalai ef am ochr gwerthu y busnes ac Anthony am adran cynhyrchu.

Yn 1806 yr oedd tair ffwrnais Plymouth yn cynhyrchu 3,592 tunell o haearn brwd; erbyn 1815 yr oeddent yn cynhyrchu 7,800 tunell. Adeiladwyd pedwaredd ffwrnais yn Plymouth , yn 1819 adeiladwyd y ffwrnais gyntaf yn Dyffryn , a c. 1824 adeiladwyd dwy ffwrnais arall. Parhâi'r cynnyrch i gynyddu — yn 1820 yr oedd yn 7,941 tunell, yn 1830 dros 12,000 tunell, ac erbyn 1846 dros 35,000 tunell. Yn 1826 gwerthodd John Hill ei gyfran ef i'w frodyr. Ychwanegwyd yr wythfed ffwrnais cyn bo hir; dywedid mai hon oedd y ffwrnais fwyaf yn y byd ar y pryd. Parhaodd Richard ac Anthony yn gyd-benaethiaid hyd y bu Richard f. yn 1844 . Bu Anthony f. ar 2 Awst 1862 .

Ystyrid mai Anthony Hill ydoedd y meistr gwaith haearn mwyaf gwyddonol ei agwedd yn Ne Cymru yn ei gyfnod. Yr oedd yn wastad yn gwneuthur arbrofion er ceisio gwella dulliau gweithio haearn . Yr oedd hefyd yn feistr caredig — yn gofalu am gyfleusterau addysgol a chrefyddol i'w weithwyr a'u teuluoedd. Sefydlodd eglwys newydd yn Pentrebach a'r ysgol genedlaethol yn yr un lle; y mae cronfa ‘ Ysgoloriaeth Anthony Hill ’ yn parhau hyd heddiw. Pan fu ef f. gwerthwyd y gwaith i'r Meistri Fothergill, Hankey, a Bateman am £250,000, eithr ni bu gweithio ynddo wedi c. 1880 .

Llyfryddiaeth:

  • John Lloyd , The early history of the old South Wales Iron Works (1760 to 1840) from original documents , 1906 ;
  • C. Wilkins , The history of Merthyr Tydfil , 1867 ;
  • The story of Merthyr Tydfil. an introductory history of the County Borough of Merthyr Tydfil. , Merthyr Tydfil Teachers' Association (N.U.T.), 1932 (‘N.U.T.’ Souvenir, 1932 );
  • The Gentleman's Magazine , 1731–1922. Am amser maith, yr oedd dwy gyfrol yn y flwyddyn—cyfeirir atynt e.e. fel ‘1776, i,’ a ‘1776, ii.’ , 1806 ;
  • Cardiff Records , 1898–1911 , iv;
  • The Cardiff Times , 8 Awst 1862 ;
  • Western Mail , 22 Ionawr 1897 ;
  • Transactions of the Royal National Eisteddfod of Wales held at Cardiff, August 6th, 7th, 8th and 9th 1883 , 1884 , 1883 .

Awdur:

Watkin William Price, M.A., (1873-1967), Aberdâr