HILLS-JOHNES, Syr JAMES (1833 - 1919), cadfridog

Enw: James Hills-johnes
Dyddiad geni: 1833
Dyddiad marw: 1919
Priod: Elizabeth Hills (née Johnes)
Rhiant: Charlotte Hills (née Savi)
Rhiant: James Hills
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cadfridog
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: Herbert John Lloyd-Johnes

Ganwyd 20 Awst 1833, mab James Hills, Neechindipore, Bengal, India, a Charlotte, merch Angelo Savi.

Cafodd James Hills ei addysg yn Edinburgh Academy ac Addiscombe. Ymunodd â'r Bengal Artillery, 1853, a bu'n ymladd yn yr Indian Mutiny, 1857-8; cafodd y Victoria Cross am iddo achub y gynnau mawr a'r dynion a oedd dan ei ofal adeg y gwarchae ar Delhi. Bu'n yr ymladd yn Abyssinia, 1867-8, a Lushai, 1871-2, a chafodd ei wneuthur yn C.B.; bu hefyd yn yr ymladd yn Afghanistan, 1878-80. Dewiswyd ef yn llywiawdr milwrol y Kabul, a dyrchafwyd ef (1881) yn K.C.B., ac yn G.C.B. yn 1893.

Priododd, 1882, Elizabeth, merch a chydaeres John Johnes, Dolaucothi, Sir Gaerfyrddin; yn 1883, gyda chaniatâd brenhinol, ychwanegodd Johnes at ei gyfenw a chymerth arfau teulu Johnes hefyd. Yr oedd yn gyrnol (anrhydeddus) 4ydd bataliwn y gatrawd Gymreig ('The Welch Regiment'), yn ustus heddwch ac yn ddirprwy-raglaw yn Sir Gaerfyrddin, bu'n siryf y sir honno yn 1886, a chafodd ryddfreiniad ('er anrhydedd') tref Caeryrddin yn 1910. Bu'n drysorydd Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, 1898-1919, a rhoddwyd iddo radd LL.D. ('er anrhydedd') gan Brifysgol Cymru yn 1917. Bu farw 3 Ionawr 1919.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.