Cywiriadau

HEYLIN (HEYLYN, HEILYN), ROWLAND (1562? - 1631), cyhoeddwr llyfrau Gymraeg

Enw: Rowland Heylin
Dyddiad geni: 1562?
Dyddiad marw: 1631
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyhoeddwr llyfrau Gymraeg
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Arthur Herbert Dodd

yr oedd yn disgyn o hen deulu Heylin o Bentreheylin ar afon Vyrnwy ym Mhowys, teulu a ddaliasai'r stad o'r Canol Oesoedd ac yn hawlio eu bod yn disgyn, trwy Rhys Sais (bu farw 1070), o Tudur Trefor, a'u bod, trwy etifeddiaeth, yn dal y swydd o ' heilyn ' neu ddygwr cwpan yfed tywysogion Powys. Bu un o'r hynafiaid, Grono ab Heilyn, yn gennad dros Llywelyn ap Gruffydd (1254 - 1282) at Edward I yn 1277.

Prentisiwyd Rowland Heylin (26 Ebrill 1576) gyda Thomas Wade, marsiandwr yn Llundain; cafodd ryddfreiniad yr Ironmongers Company yn 1584 - bu'n feistr y cwmni ddwywaith - ac fe'i dewiswyd yn drysorydd y Muscovy Co. yn 1623 ac yn aldramon a siryf yn 1624. Daeth yn gyfoethog iawn a defnyddiodd ei gyfoeth, mewn cydweithrediad â Syr Thomas Myddelton (1550 - 1631), i gynorthwyo cyhoeddi llyfrau Cymraeg (yn enwedig llyfrau defosiynol) a argreffid, yn llu mawr, yn Llundain, 1630-2. Yn eu plith yr oedd geiriadur Cymraeg a Lladin John Davies (1570? - 1644), Mallwyd, cyfieithiad Rowland Vaughan o Practice of Piety yr esgob Lewis Bayly, a Beibl Cymraeg pedwar-plyg, 1630 ('y Beibl bach') a'r Llyfr Gweddi a Salmau Edmund Prys wedi eu rhwymo gydag ef.

Bu Heylin farw, yn ddiblant, yn 1631. Gyda'i farw ef daeth llinell uniongyrchol yr Heyliniaid i'w therfyn ac aeth y stad, trwy briodas ei ferch, i deuluoedd Niccol a Congreve. Barn ei gyfoeswyr amdano oedd ei fod yn ddyn gwirioneddol dda ('a man of singular goodness'). Y mae darlun ohono yn hongian yn Ironmongers' Hall. Nai iddo, HENRY HEYLIN, oedd tad y PETER HEYLIN (1599 - 1662), diwinydd, y mae ysgrif arno yn y D.N.B.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

HEYLIN, ROWLAND

Aelod o deulu Heylin, Pentreheilyn, Llanymynech, a hawliai eu tras o Frochwel Ysgithrog, oedd Rowland Heylin. Nid oedd perthynas rhwng y teulu hwn a theulu Heylin, Pentreheilyn, Ellesmere, a ddisgynnai o Rys Sais. Gweler George Vernon, ' Life of Peter Heylin ' yn The Historical and Miscellaneous Tracts of … Peter Heylin (1681). Dylid dileu'r cyfeiriad at Rys Sais (a Powys Fadog yn y llyfryddiaeth). Ymddengys mai cefnder, nid nai, Rowland Heylin, oedd Henry Heylin, a rhaid amau a oedd Grono ab Heilyn yn un o hynafiaid y teulu. Gweler eto y cywiriadau i EDWARDS, Cilhendre, a DAVID HOLBACHE.

Awdur

  • Peter Clement Bartrum

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.