HERBERT, Syr WILLIAM (bu farw 1593), planiedydd yn Iwerddon ac arloeswr addysgol Cymreig

Enw: William Herbert
Dyddiad marw: 1593
Priod: Florentia Herbert (née Morgan)
Plentyn: Mary Herbert (née Herbert)
Rhiant: Jane Herbert (née Griffith)
Rhiant: William Herbert
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: planiedydd yn Iwerddon ac arloeswr addysgol Cymreig
Maes gweithgaredd: Addysg; Perchnogaeth Tir; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Arthur Herbert Dodd

mab William Herbert, S. Julians, sir Fynwy, a gor-ŵyr (ar yr ochr wrywol) Syr William Herbert (bu farw 1469) iarll 1af Pembroke. Jane, merch Edward Griffith, Penrhyn, Sir Gaernarfon, oedd ei fam; etifeddodd trwyddi hi diroedd yn sir Fôn ac yn Sir Gaernarfon i'w hychwanegu at ei stadau yn sir Fynwy. Er nad ymddengys iddo fod mewn prifysgol yr oedd yn fyfyriwr mawr mewn diwinyddiaeth, alcemi, a sêr-ddewiniaeth - gohebai â John Dee ar sêr-ddewiniaeth - ac yr oedd yn bur gyfarwydd â'r clasuron. Priododd Florentia, merch William Morgan, Llantarnam, cyd-aelod seneddol â'i dad dros y sir a thad ei gyd-aelod yntau. Cymerodd gastell Casnewydd-ar-Wysg ar brydles (26 Hydref 1578), gwnaeth Elisabeth ef yn ddirprwy-gwnstabl castell Conwy (8 Gorffennaf 1579) ac, yn 1583, yn stiward Rhymni a maenorau eraill yn Ne Cymru a oedd wedi eu fforffedio i'r Goron er amser collfarniad Buckingham (1521). Gwnaethpwyd ef yn farchog yn 1578 (21 Rhagfyr), cymerodd ran amlwg (ac, weithiau, ran gythryblus) mewn materion gwleidyddol lleol, a bu'n siryf Morgannwg yn 1578 a sir Fynwy yn 1580. Yr oedd yr un mor amlwg fel aelod dros sir Fynwy yn Senedd 1584, lle y cymerai ddiddordeb mewn deddfau a mesurau piwritanaidd eu natur, ac yn Senedd 1586; yn honno siaradodd yn erbyn Mari frenhines Sgotland - yr araith gyntaf gan aelod o Gymru y mae cofnod ohoni wedi ei gadw - ac o'i herwydd fe'i dewiswyd yn un o'r deisebwyr a oedd i fyned i weld Elisabeth yn achos Mary. Y flwyddyn wedyn 'ymgymerodd' â 13,000 o erwau o dir ym Munster, tir fforffed teulu Fitzgerald, gan dalu c. £200 y flwyddyn o rent i'r Goron a byw (1586-7) yn Castle Island, swydd Kerry. Daeth yn nodedig ymysg ei gydymgymerwyr ym Munster oherwydd ei sêl dros addysgu ac efengyleiddio a'i gydymdeimlad â'r tenantiaid Gwyddelig; ceisiodd gadw rhenti'r tenantiaid rhag codi, trefnodd, er eu mwyn, i droi rhannau o wasanaeth Eglwys Loegr i iaith y Gwyddelod, a bu'n arfaethu hefyd gael coleg iddynt - eithr hawliwyd y tir yr oedd y coleg i fod i'w adeiladu arno gan blaniedydd arall. Achwynai yn erbyn gormes y gwarchodlu Seisnig (fe hoffai ef gael gwŷr o sir Fynwy i gymryd eu lle) ac yn erbyn rhaib ei gydblaniedyddion, gwŷr a oedd yn diystyru ei awdurdod fel is-lywydd gweithredol Munster ac a ymosodai ar ei 'Welsh humour,' 'fat conceit,' a'i duedd i gymryd ochr y Gwyddelod; eithr yr oedd swyddogion cyfrifol y blanedigaeth, yn wŷr eglwysig a gwŷr llên, yn ei bleidio. Aeth adref yn 1589 a bu'n ddiwyd unwaith yn rhagor yn mywyd cyhoeddus ei sir - yn y sir ei hun ac yn Senedd 1593 - eithr yn cadw ei gyswllt â phethau yn Iwerddon trwy ei berthynas â Charles Herbert (un o Herbertiaid Aston, efallai;), gŵr yr oedd ganddo 6,000 erw o dir wedi eu gosod iddo yn swydd Kerry ac a oedd, yntau hefyd, yn byw yn Castle Island. Cafodd Syr William Herbert ei enwi gan ail iarll Pembroke i fod yn aelod o Gyngor y Goror yn Llwydlo ond nid ymddengys iddo gael ei ddewis.

Dywedodd Herbert wrth Burghley yn 1588 fod ganddo dair uchelgais - sgrifennu llyfr, plannu trefedigaeth, a sefydlu coleg. Am y llyfr - cyhoeddodd lyfrynnau nad oedd iddynt ddiddordeb ond am dymor byr, llyfrau dadleuol Protestannaidd (un ohonynt yn erbyn Campion, aelod o Gymdeithas yr Iesu), eithr y mae ei ysgrifeniadau gorau heb eu cyhoeddi - ei adroddiadau rhagorol ar Munster. O ran y blanedigaeth, cafodd ddioddef siomedigaeth; yr oedd wedi gobeithio medru ei gwneuthur yn esiampl o 'piety, justice, inhabitation, and civility.' Yr oedd i'w drydedd uchelgais ddwy ran; arfaethai gael coleg yng Nghymru hefyd - yn ogystal ag Iwerddon - er mwyn gwella'r 'backwardness in religion' a'i blinai ers amser maith. Yr oedd am gychwyn yn 1593 ac agor yn 1600 goleg yn ei blasty yn Tintern i'w gynnal gan elw tiroedd ym Maesaleg, sir Fynwy, a Llanidan, sir Fôn - elw o c. £400 y flwyddyn yn ôl ei amcangyfrif ef. Gwelir manylion am y cynllun yn Cal. S.P. Ireland, 1586-8, 473; eithr bu'r cynlluniwr farw (4 Mawrth 1593) cyn y gellid cychwyn, a gadawyd i'r cynllun fynd i ebargofiant yn ystod y chwe blynedd a dreiglodd cyn i'r stadau ddyfod i feddiant Edward Herbert (Arglwydd Herbert, Cherbury, yn ddiweddarach), trwy briodas hwnnw â Mary, merch y planiedydd. Yr oedd Syr William yn noddwr y crachfardd Thomas Churchyard, sydd yn ei foli yn ei Worthines of Wales, 1587.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.