HERBERT
(TEULU),
ieirll Pembroke (o'r ail greadigaeth)
.
WILLIAM
HERBERT
(
c.
1501
-
1570
), yr
iarll Pembroke 1af (o'r ail greadigaeth)
;
mab hynaf
Syr
Richard
Herbert
(‘
ddu
’)
o
Ewyas
, mab anghyfreithlon
William
Herbert
(bu f.
1469
),
iarll Pembroke o'r greadigaeth gyntaf
[q.v.]
, ei fam yn ferch
Syr
Matthew
Cradock
,
Abertawe
, ‘
Receiver of Glamorgan
.’ Wedi llencyndod a oedd braidd yn wyllt ac ym mha un y bu'n ymladd yn
Ffrainc
ac ennill ffafr
brenin
y wlad honno, aeth i wasanaethu
Syr
Charles
Somerset
,
yr iarll Worcester 1af
wedi hynny [q.v.]
, y gŵr y trosglwyddasid iddo y rhan fwyaf o diroedd iarllaeth
Pembroke
pan briododd ferch yr
iarll 1af
; trwy ddylanwad ei noddwr cafodd swydd yn llys
Henry
VIII
, a'i ddyrchafu'n gyflymach wedi i
Henry
briodi
Catherine
Parr
, chwaer-yng-nghyfraith
Herbert
(
1543
) — cafodd ei wneuthur yn
farchog
a daeth yn fuan i feddiannu tiroedd a swyddi yn
Ne Cymru
, yn eu plith arglwyddiaethau
Usk
,
Trelech
, a
Caerleon
(a fuasai gynt yn rhan o iarllaeth
March
ac yn un o roddion
Harri
VIII
i
Anne
Boleyn
); rhoddwyd iddo hefyd diroedd mynachty
Wilton
,
Wiltshire
. Bu'n ymladd yn y cyrch o gwmpas
Boulogne
yn
1544
, a chael yr hawl i gadw 30 o weision lifrai. Yr oedd yn
ysgutor
ewyllys
Harri
VIII
, ac felly daeth yn
llywodraethwr ar y brenin ieuanc
Edward
VI
, yn ‘
chief gentleman of his privy chamber
,’ yn un o 12 aelod ei
Gyfrin Gyngor
(
Ionawr 1547
), ‘
Master of the King's Horse
’ (
1548-52
), ac yn
farchog o Urdd y Gardys
(
Rhagfyr 1548
).
Cododd 2,000 o Gymry i wrthsefyll y gwrthryfel yn y gorllewin
, eithr gwrthododd eu defnyddio i gynorthwyo
dug Somerset
, pan oedd hwnnw'n ‘
Protector
,’ yn erbyn ei gydymgeisydd
Warwick
(
Northumberland
yn ddiweddarach), gŵr yr oedd iddo ddiddordeb arbennig yn y ffin rhwng
Lloegr
a
Chymru
ac elfen
Gymreig
gref yn gwasanaethu arno yn ei gartref (un o'r
Herbertiaid
yn eu plith) (
L. & P. Henry VIII
, xv, 355, etc., Addenda, 415). Cymerodd ran ym mhrawf
Somerset
(
Rhagfyr 1551
), gan gael yn dâl stadau hwnnw yn
Wiltshire
. Ar
8 Ebrill 1550
fe'i gwnaethpwyd yn
llywydd y Cyngor
yn
Llwydlo
, ac, ym mis
Hydref 1551
, yn
farwn Herbert Caerdydd
, ac yn
iarll Pembroke
. Cefnogodd gynllwyn
Northumberland
(
Gorffennaf 1553
) i goroni
Lady
Jane
Grey
(efallai mai efe a gychwynnodd y cynllwyn) — eithr tynnodd yn ôl mewn pryd, a bu'n helpu cyhoeddi
Mari
yn
frenhines
, a thrwy hynny enillodd ei hymddiriedaeth yn llwyr a chadwodd ei ddylanwad, eithr ymddiswyddodd o
lywyddiaeth y Cyngor
yn
Llwydlo
. Yr oedd o blaid y briodas gyda
Philip
II
,
brenin Sbaen
, efe oedd arweinydd y llu a ddarostyngodd wrthryfel
Wyatt
(
1554
), aeth ar negesau llysgenhadol i
Ffrainc
a'r
Iseldiroedd
, fe'i gwnaethpwyd yn
llywodraethwr
Calais
(
22 Tachwedd 1556
), a bu'n llwyddiannus fel
pennaeth ymgyrch y Prydeinwyr
i
Ffrainc
(
1557
). Yn ystod ei ail dymor fel
llywydd
yn
Llwydlo
,
1555-8
, gweithredai trwy ddirprwy; yn
Awst 1588
ymddiswyddodd gan ei fod yn teimlo bod annhrefn yn cynyddu o ddiffyg rheolwr cryf yn cartrefu yno. Parhaodd mewn ffafr pan ddaeth
Elisabeth
i'r orsedd; gwnaeth hi ef yn ‘
Custos Rotulorum
’
Morgannwg
(
1567
) ac yn ‘
Lord Steward of the Household
’ (
1568
). Ychwanegodd at ei stadau trwy brynu tiroedd mynachty
Llantarnam
(rhoes rai o'r rhain ar brydles i
William
Morgan
, sylfaenydd
Morganiaid
Llantarnam
[q.v.]
); prynodd arglwyddiaeth
Castellnedd
hefyd (
1561
). Eithr collodd ffafr y
frenhines
pan gefnogodd y briodas a awgrymid rhwng
dug Norfolk
a
Mari
o
Sgotland
(
1569
). Bu f.
17 Mawrth 1570
a chladdwyd ef yn
S. Pauls.
Er nad ydoedd yn anllythrennog, fel y dywedid weithiau, ni allai ysgrifennu'n rhwydd, ni wyddai ddim o ieithoedd
Ewrop
, ac yr oedd yn fwy cartrefol yn y
Gymraeg
nag yn
Saesneg
. O ran ei wleidyddiaeth a'i grefydd yr oedd yn ŵr a achubai ei gyfle, eithr ceir tystiolaeth i'w gariad at
Gymru
yng nghyflwyniad
Gramadeg
Gruffydd
Robert
[q.v.]
iddo ac yn ei nawdd i
Syr
John
Price
[q.v.]
,
arloesydd argraffu llyfrau Cymraeg
a
hanesydd
, ac ysgrifenwyr
Cymreig
eraill (
Ath. Oxon.
, i, 216, 418).
HENRY
HERBERT
(
c.
1534
-
1601
),
ail iarll Pembroke
,
mab hynaf yr
iarll Pembroke 1af
. Cafodd ei addysg yn
Peterhouse
,
Caergrawnt
. Cydolygai â chynlluniau ei dad ynglŷn â
Lady
Jane
Grey
a phriododd
Catherine
ei chwaer hi (
25 Mai 1553
), eithr ysgarodd â hi (
1554
) pan fethodd y cynllwyn; cafodd ei wneud yn
farchog
(
1553
) ac yn aelod o lu teulu
Philip
, a bu'n gwasnaethu gyda'i dad yn
Ffrainc
(
1557
). Ar ôl dilyn ei dad yn yr
iarllaeth
daeth hefyd i etifeddu stadau brawd ei fam,
William
Parr
,
ardalydd Northampton
(
1571
), a gwnaeth hyn ef yn un o'r arglwyddi cyfoethocaf yn y deyrnas; cafodd hefyd rai o swyddi ei dad yng
Nghymru
(
Ebrill-Mai 1570
), fe'i gwnaethpwyd yn
ustus heddwch
yn siroedd
Morgannwg
a
Mynwy
(
1576
), ac yn
Farchog Urdd y Gardys
ar
2 Ebrill 1574
; yn y flwyddyn honno dechreuodd adnewyddu
castell Caerdydd
, lle yr oedd lletygarwch a chroeso ar raddfa helaeth a chostus. Cymerodd ran ym mhrawfion
Norfolk
(
1572
),
Mari
frenhines Sgotland
(
1586
), ac
Arundel
(
1589
). Ym mis
Mawrth 1586
dilynodd
Syr
Henry
Sidney
fel
llywydd y Cyngor
yn
Llwydlo
— a daeth hefyd yn
is-lyngesydd De Cymru
;
Mary
, merch
Sidney
, oedd ei drydedd wraig. Cynhaliai ei lys yn gyson, gan wella llawer o gamarferion, a cheisio cael gan fonedd
Cymru
gydnabod bod iddynt ddyletswyddau a rhwymedigaethau yn eu bywyd cyhoeddus; dechreuodd ymgyrch gref yn erbyn
Pabyddion
, a dadleuai'n gryf a blaid gosod amddiffynfeydd yn
Hafan Deugleddau
rhag goresgyniad gan wŷr
Sbaen
(
1595
). Eithr dechreuodd ei iechyd wanhau yn
1590
a gwaethygu'n fawr o
1595
ymlaen, ac oblegid ei fod yn absennol o'r
Cyngor
yn aml dechreuwyd cynllwynio yn erbyn ei awdurdod, daeth camarferion yn ôl, ac ymlusgodd llacrwydd i mewn i lywodraeth leol. Bu f.
19 Ionawr 1601
a chladdwyd ef yn
eglwys gadeiriol Salisbury
. Yr oedd yn
noddwr i anturiaethau diwydiannol, i'r ddrama, ac i lenyddiaeth
Lloegr
a
Chymru
; oblegid ei wybodaeth drylwyr o fywyd
Cymru
a'i gariad at ei hiaith galwodd
Thomas
Williems
,
Trefriw
[q.v.]
, ef yn ‘llygad holl
Gymru
.’
Cafodd
WILLIAM
HERBERT
(
1580
-
1630
),
3ydd iarll Pembroke
, ei addysg yn
New College
,
Rhydychen
, lle yr ymaelododd ar
8 Mawrth 1593
. Dymunai
Cecil
iddo ddilyn ei dad yn
Llwydlo
eithr methodd â threchu rhagfarn
Elisabeth
yn erbyn llacrwydd ei fywyd moesol. Pan ddaeth
Iago
I
i'r orsedd, fodd bynnag, yr oedd pethau'n wahanol; bu'r
brenin
yn ymweld ag ef yn
Wilton
yn gynnar ar ôl ei esgyniad a dwywaith yn ddiweddarach, gwnaeth ef yn ‘
custos rotulorum
’
Morgannwg
(
Gorffennaf 1603
), yn
stiward
a
chwnstabl amryw arglwyddiaethau a chestyll
yn
sir Faesyfed
(
1616
), ac yn
aelod o'r Cyngor
yn
Llwydlo
erbyn
1617
(
Cal. Wynn Papers
, 809). Daeth yn aelod o'r
Cyfrin Gyngor
yn
1611 (29 Medi)
ac yn
Arglwydd Siambrlen
yn
1615 (28 Rhagfyr)
. Yr oedd yn byw y rhan fwyaf o'i amser yn
Llundain
ac yn
Wilton
, gan ddefnyddio ei gyfoeth mawr i noddi
Shakespeare
a'r rhai a oedd mewn cysylltiad ag ef —
ysgrifennai beth barddoniaeth
ei hunan — ac i
gynorthwyo anturiaethau diwydiannol
a rhai yn y trefedigaethau. Eithr nid esgeulusodd ei stadau yn
Ne Cymru
fel y dangosir gan ei ‘water-works’ yn
Nhrelech
a'r modd yr hoffai ymgydnabyddu ag arweinwyr cymdeithasol
Cymru
(
Cal. Wynn Papers
, 598,
Clarendon
,
Hist
, i, 174,
Hist. MSS. Comm.
,
Cecil
, xvi, 190-1); trwy hyn oll daeth i feddu dylanwad cryf mewn etholiadau, yn enwedig yn siroedd a bwrdeisdrefi
Mynwy
,
Morgannwg
,
Maesyfed
, a
Trefaldwyn
, a daeth i gael twr o bleidwyr o
Gymru
yn
Westminster
i'w bolisi
Protestannaidd
a seneddol, ac yn erbyn
Buckingham
, gyda
Syr
William
Herbert
(y
barwn Powis 1af
yn ddiweddarach) yn mynegi ei farn drosto yn
Nhŷ'r Cyffredin
. Rhoes
Siarl
I
ef ar y ‘
Committee on Foreign Affairs
’ (
9 Ebrill 1625
) a'r ‘
Council of War
’ (
3 Mai 1626
) a gwnaeth ef yn
is-lyngesydd De Cymru
(
1625
) ac yn
arglwydd-stiward
(
3 Awst 1626
); eithr fel rheol ni dderbyniai'r
brenin
mo'i gynghorion fel gwladweinydd ac nid oedd gan
Herbert
ddigon o nerth ewyllys i'w rhoddi mewn gweithrediad. Oblegid ei natur hynaws fe'i cyfrifid ‘
the most universally belov'd and esteem'd of any man of that age
’ (
Clarendon
); geilw
Rhys
Prichard
[q.v.]
ef yn ‘
golofn y deyrnas
.’ Bu f. o
ergyd y parlys
ar
10 Ebrill 1630
, ‘
after a full and chearful supper
.’
PHILIP
HERBERT
(
1584
-
1650
),
4ydd iarll Pembroke
,
brawd iau'r
3ydd iarll
. Cafodd ei addysg gyda'i frawd yn
New College
,
Rhydychen
, a chyfranogai o'i chwaeth lenyddol — noder gyflwyniad argraffiad cyntaf gwaith
Shakespeare
(‘the first folio’),
1623
, i'r ddeufrawd; cyfranogai hefyd yn niddordebau ei frawd mewn
anturiaethau diwydiannol a threfedigaethol
, gan gynnwys y diwydiant gwydr (yn
Hafan Deugleddau
a
gogledd Lloegr
) a'r monopoli oedd ynghyswllt ag ef — daeth yn bartner yn y gwaith hwn yn
1615
eithr gwerthodd ei gyfran yn fuan wedi hynny i
Syr
Robert
Mansel
[q.v.]
. Oblegid ei serch arbennig tuag at
helwriaeth, pasiantri, ac adeiladu
(gwnaeth lawer o adeiladu yn
Wilton
), ynghyd â harddwch ei gorff, enillodd ffafr
Iago
I
a pharhaodd yn ffefryn ‘in the Second place’ (ys dywed
Clarendon
) pan ddaeth
Carr
yn fwy o ffefryn gan y
brenin
. Cafodd ei dderbyn i'r
Cyfrin Gyngor
yn gynnar (
Mai 1603
) ac yn aelod o'r ‘
Order of the Bath
’ (
28 Gorffennaf
), rhoddwyd tiroedd eang iddo (
arglwyddiaeth Dinbych
yn eu mysg) yn
1604
(
Cecil
, xvi, 439), a'r flwyddyn ddilynol fe'i gwnaethpwyd yn
iarll Montgomery
(
4 Mai
) a rhoddwyd iddo
gastell Trefaldwyn
, a hawlid, am iddo fod yn cael ei ddal am ganrif yn y teulu, gan
Edward
Herbert
,
arglwydd Herbert (Cherbury)
wedi hynny [q.v.]
; ceisiasai
Philip
cyn hyn, eithr yn ofer, ennill serch merch
Syr
William
Herbert
,
St. Julians
(bu f.
1593
) [q.v.]
, cyn iddi ddyfod yn wraig i
Edward
Herbert
— a bu'r anghydwelediad hwn heb ei derfynu hyd nes y prynodd yr
arglwydd Herbert
y castell yn ei ôl yn
1617
. Ar
16 Mehefin 1605
dewiswyd
Philip
Herbert
yn
ganghellor
a
siamberlen
Môn
,
Caernarfon
, a
Meirionnydd
, ac erbyn
1617
yr oedd yn aelod o
Gyngor y Goror
. Hyd ei ddychafu'n
farwn
bu'n eistedd dros
sir Forgannwg
yn
Senedd
gyntaf
Iago
I
. Parhaodd mewn ffafr o dan
Siarl
I
; bu ‘r
brenin
hwnnw yn ymweled ag ef yn flynyddol yn
Wilton
, rhoes iddo swyddi ei frawd (
arglwydd-siamberlen
,
3 Awst 1626
, ac
islyngesydd De Cymru
,
23 Ebrill 1631
) a dychwelodd iddo y stiwardiaethau teuluol ym
Maesyfed
a roddasid dros dymor i'r
arglwydd Powis 1af
[q.v.]
(
Cal. S.P. Dom.
,
1629-31
, 530,
1631-3
, 94); rhoes hefyd iddo addurn
Urdd y Gardys
(
23 Ebrill 1638
). Eithr oblegid ei ymwneud â'r
Sgotiaid
yn y ‘
Bishops Wars
’ (yr oedd gyda'r
brenin
yn y rhai hyn) a'i ymarweddiad yn y
Senedd Faith
, collodd ei swydd fel
siamberlen
(
17 Ebrill 1641
); o hyn ymlaen fe'i ceir yn ymbleidio mwy gyda pharti'r wrthblaid — yn fwy felly nag y golygai fod — a methodd, er ymdrechu'n galed fwy nag unwaith, setlo pethau trwy gytundebu yn ystod y rhyfel, a diweddodd trwy fod yn aelod o'r ‘
Council of State
’ (
14 Chwefror 1649
). Yn rhinwedd ei swydd fel
canghellor Prifysgol Rhydychen
(
4 Awst 1647
) efe a lywyddai pan oeddid yn troi allan y
Piwritaniaid
yno (‘
the Puritan purge
’) eithr cyfryngodd i adael
Philip
Henry
[q.v.]
yn llonydd yn
Christ Church
. Fe'i dewiswyd gan y
Senedd
yn
arglwydd raglaw
siroedd
Mynwy
,
Morgannwg
,
Brycheiniog
(
29 Gorffennaf 1642
), a
Cheredigion
(
4 Rhagfyr 1646
) eithr nid oedd ei ynni yn y lleoedd hyn gymaint ag ydoedd pan oedd yn dal yr un swydd yng
Nghaint
(
1642
), lle hefyd
yr oedd ganddo diroedd. Mewn gwirionedd, serch ei alw ‘
the Welsh lord
’ pan oedd yn ieuanc a dannod iddo fod arno eisiau cyfieithydd (
Cecil
, xvi, 439) ac er iddo ddewis
George
Herbert
[q.v.]
a
Griffith
Williams
(
esgob Ossory
wedi hynny) [q.v.]
yn
gaplanau
iddo'i hun ac
Edward Lloyd
Jeffrey
o
Palé
[q.v.]
yn
was teulu
(
Trans. Cymm.
,
1948
, 405), yr oedd ei gysylltiadau uniongyrchol â
Chymru
yn llai nag eiddo ei ragflaenwyr. Profodd y
Rhyfel Cartrefol
na allai dylanwad teulu'r
Herbertiaid
gystadlu mwyach ag eiddo
Catholigiaid
a
Brenhinwyr
Raglan
. Bu f.
23 Ionawr 1650
. Bu ei fab iau
WILLIAM
HERBERT
yn eistedd dros
sir Fynwy
yn y
Senedd Faith
ac yn ymladd ym
mhlaid y brenin
.
Wedi ei farw ef daeth y cysylltiad â
Chymru
yn eiddilach fyth. Bu ei fab,
PHILIP
HERBERT
(
1619
-
1669
),
5ed iarll Pembroke
, yn eistedd (fel
arglwydd Herbert
) dros
sir Forgannwg
yn y
Senedd Faith
, gan ddilyn ei dad mewn materion gwleidyddol a chael ei ddewis gan y
Senedd
yn
arglwydd raglaw
Mynwy
,
Morgannwg
, a
Brycheiniog
— eithr cymerwyd ei le yn y sir honno yn gynnar iawn gan ei dad; daeth hefyd yn
llywydd
‘
Council of State
’ y
Werinlywodraeth
yn
1652
. Wedi'r
Adferiad
daeth yn ‘
custos rotulorum
’ ym
Morgannwg
a
Penfro
, yn aelod o'r ‘
Committee for Trade and Navigation
,’ ac, yn rhinwedd ei swydd fel ‘
Ymwelydd Etifeddol
’
Coleg Iesu
,
Rhydychen
, galwyd arno (eithr gwrthododd) i ddatgan dedfryd ar gwestiwn cymrodoriaeth
Dr.
Michael
Roberts
[q.v.]
— mater yr oedd anghyd-ddealltwriaeth yn ei gylch; gw.
Cal. Wynn Papers
, 2660, lle y mae'r cyfeiriad, ar gam, at y
7fed iarll
. Yr oedd ei aer yn
aelod seneddol
dros
sir Forgannwg
o
1661 hyd 1669
a bu ei ddilynwyr yn parhau i ddal swyddi'r
Goron
yn
Ne Cymru
hyd
1733
, eithr yn
Wiltshire
yr oedd eu gwir ddiddordebau a dechreuasant gael gwared o'u tiroedd yn
Ne Cymru
yn gynnar ar ôl yr
Adferiad
. Daeth yr hyn a adawsant yn weddill yn eiddo
Thomas
, yr
is-iarll Windsor 1af
(ail fab
iarll 1af Plymouth
), ar ei briodas (
1703
) â
Charlotte
, merch
PHILIP
HERBERT
,
7fed iarll Pembroke
(meddwyn ag ynddo dueddiadau dynleiddiad) a gweddw
John
,
ail farwn Jeffreys
[q.v.]
. Gwerthodd
Windsor
arglwyddiaethau
Caerleon
,
Usk
, a
Trelech
(
1722
); trosglwyddwyd y tiroedd ym
Morgannwg
(
1766
) trwy ei ŵyres
Charlotte Jane
i'w gŵr
John
Stuart
(aer
iarll Bute
,
prif-weinidog
Siôr
III
); gwnaethpwyd
John
Stuart
yn
farwn Cardiff
(
castell Caerdydd
)
Mai 1776
, etifeddodd yr iarllaeth yn
1792
gan ddyfod yn
iarll Windsor
ac
ardalydd Bute
yn
1796
— a dyna sydd yn cyfrif am oruchafiaeth ei olynwyr,
ardalyddion Bute
, yn wladwriaethol, yn wleidyddol, ac yn ddiwydiannol, yn y cylch hwn (
gw.
Bute, Ardalyddion
). Eithr y rhai a etifeddodd yr oruchafiaeth ym
Morgannwg
ar y cyntaf (sef dylanwad yr
Herbertiaid
) ydoedd
ieirll Plymouth
, cangen hŷn teulu
Windsor
; yr oedd y
4ydd iarll
yn
arglwydd-raglaw
yn
1754
ac fe'i dilynwyd yn y swydd hon gan y
5ed iarll
a
oedd hefyd yn
gyrnol y milisia lleol
ac yn
is-lywydd
y ‘
Welsh Charity
.’ Pan adfywiwyd yr iarllaeth yn
1905
— wedi 62 mlynedd o fod heb ei rhoi mewn grym — ym mherson
Robert
George
,
14eg barwn Windsor
, daeth ef yn
Viscount Windsor o S. Fagans
ac yn
arglwydd raglaw
.
Llyfryddiaeth:
-
Oxford Dictionary of National
Biography
, xxvi, 189-90, 208-12, 217, 220-3 xliii, 368, a'r ffynonellau a nodir yno;
-
Doyle
,
The Official Baronage of England, showing
the succession, dignities, and offices of every peer from
1066 to 1885
, Llundain, 1885
, iii, 19 ff., 47 ff.;
-
Burke's … Peerage, Baronetage, and
Knightage
,
1949
, 311-2,
1569-71
,
1596-7
;
-
Letters and Papers, Foreign and Domestic,
Henry VIII.
Record Publication
v, vii, viii xi-xv;
-
Athenae Oxonienses
, 1813–20
, ii 482-6;
-
Acts of the Privy Council
. Record
Commission, 1834–7; Record Publications
,
1542-1604
;
-
Calendar of Wynn (of Gwydir) Papers,
1515–1690, in the National Library of Wales and
elsewhere
, 1926
;
-
Clenennau Letters and Papers in the
Brogyntyn Collection
, 1947
;
-
Letters and Memorials of State, in the
reigns of Queen Mary, Queen Elizabeth, King James, King
Charles the First, part of the reign of King Charles the
Second, and Oliver's usurpation. Written and collected by
Sir Henry Sydney … Sir Philip Sydney, and his brother Sir
Robert Sydney … Robert, the second Earl of Leicester …
Philip, Lord Viscount Lisle … and of his brother Colonel
Algernon Sydney … Together with letters of the other
ministers of state, with whom they held a correspondence
…
, Llundain, 1746
(gol,
Collins
),
1746
;
-
Stradling Correspondence, a series of
letters [addressed to Sir E. S.] written in the reign of
Queen Elizabeth with notices of the family of Stradling of
St. Donat's Castle, Co. Glamorgan
, Llundain,
1840
(gol.
J.M. Traherne
),
1840
;
-
Adroddiadau'r ‘Historical
Manuscripts Commission,’
, Cecil, i, vii-xi, xiii-xvii; 13th R., iv, 247, 335-6;
-
N.L.W.,
Llawysgrifau Penrice a Margam yn Llyfrgell
Genedlaethol Cymru
, L, 301-4, 313, 320,
Llawysgrifau Penlle'rgaer yn Llyfrgell Genedlaethol
Cymru, Aberystwyth
, B, parcel 6, No. 26;
-
C. A. J. Skeel
,
The Council in the Marches of Wales a study
in local government during the sixteenth and seventeenth
centurie
, Caergrawnt, 1904
, 82-4;
-
William Valentine Lloyd
,
The Sheriffs of Montgomeryshire, with their
armorial bearings, and notices, genealogical &
biographical, of their families, from 1540 to 1639.
(Catalogue of the Sheriffs, authenticated by reference to,
and illustrated by extracts from, the Public Records
,
Llundain, 1876
, 93-6;
-
D. Mathew
,
The Celtic Peoples and Renaissance Europe. A
study of the Celtic and Spanish influences on Elizabethan
history
, 1933
, 30, 422-3;
-
A History of Monmouthshire
i, 464; ii, 132; iii, 194-7;
-
Williams
,
Monmouthshire
, 271-97, a'r ‘Appendix,’ 10-1, 144-7;
-
Cartae et Alia Munimenta quae ad Dominium de
Glamorgan pertinent
. Ail arg., 1910
vi, 2232;
-
Y Greal sef Cylchgrawn Misol at wasanaeth y
Bedyddwyr
,
1805
, 61-7;
-
English Historical Review
, i, 242-56;
-
Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y
Cymmrodorion
,
1901-2
, 117;
1940
, 101-14;
1942
,69-71;
1945
,49;
1946-7
, 60-1, 65-6, 74, 86, 94-5; 1948, 10-11, 17-8, 27, 30, 35, 41, 43, 48, 51-2, 63.
Awdur:
Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor