HERBERT
,
WILLIAM
(bu f.
1469
),
iarll Pembroke
,
milwr a gwladweinydd
;
mab
Syr
William ap Thomas
,
Raglan
, a
Gwladys
, merch
Syr
Dafydd Gam
. Bu'n gwasanaethu yn lluoedd
Lloegr
yn
Normandi
gyda'i gyd-
Gymro
Mathau Goch
[q.v.]
; cymerwyd ef yn garcharor yn
Formigny
(
Ebrill 1450
) a chafodd ei wneuthur yn
farchog
Nadolig yr un flwyddyn. Yn yr ymdrech rhwng
plaid Lancaster
a
phlaid Iorc
yr oedd ei ddiddordebau (os nad ei gydymdeimlad hefyd) yn ei dueddu i bleidio
plaid Iorc
‐yr oedd nerth y blaid honno ar ororau
De Cymru
yn gorbwyso nerth y blaid arall. Pa fodd bynnag, ymheddychodd â'r
brenin
ac â'r
frenhines
Margaret
yn
1452
a thrachefn yn
Leicester
yn
1457
. Am rai o'r blynyddoedd a ddilynodd yr oedd yn deyrngar i'r
Goron
, ac y mae hyn yn esbonio i raddau y dirfawr ofn a deimlid gan
blaid Iorc
yn
Ludford
(
12 Hydref 1459
). Yn dâl am ei deyrngarwch rhoddwyd iddo ddarnau helaeth o'r tiroedd a gymerasid oddiar
Iorc
a
Warwick
(
5 Chwefror 1460
). Yn
1459
priododd
Anne
Devereux
, chwaer
Walter
,
arglwydd Ferrers (o
Chartley
)
. Ar ôl
brwydr Northampton
(
Gorffennaf 1460
) rhoes
Warwick
iddo lawer
o awdurdod yn
Ne Cymru
. Ym mis Hydref yr oedd yn cynrychioli
swydd Henffordd
yn y
Senedd
. O hyn allan dangosodd ei fod ar ochr
plaid Iorc
— ac y mae hyn yn esbonio i raddau helaeth sut y bu iddynt gael y fuddugoliaeth yn
Mortimer's Cross
(
2 Chwefror 1461
). Yr oedd ei ddyrchafiad yn ffafr y
brenin
yn gyflym yn awr. Gwnaethpwyd ef yn aelod o'r
Cyfrin Gyngor
, ac yr oedd yn bresennol yn
Baynards’ Castle
pan gyhoeddwyd
iarll March
yn
frenin
o dan yr enw
Edward
IV
(
Mawrth 1461
). Adeg y coroni fe'i gwnaethpwyd yn
Arglwydd Herbert (o Raglan)
4 Tachwedd
. Am rai blynyddoedd o hyn ymlaen yr oedd
Edward
IV
yn tywallt ffafrau arno ‘to the secret displeasure of the
earl of Warwick
.’ Wedi iddo'n ffurfiol dderbyn
castell Penfro
i'w law oddiar y
Lancastriaid
y gorfu arnynt ei drosglwyddo rhoddwyd gofal y tywysog ifanc
Harri
,
iarll Richmond
, arno; yn ei ewyllys dyweddiodd
Herbert
y
tywysog
hwnnw â'i ferch
Maud
. Gwnaethpwyd ef yn
farchog
o
Urdd y Gardys
(
Ebrill 1462
) a daeth yn aelod o
Gyngor Mewnol y Brenin
. Aeth yr anghydfod rhwng
Herbert
a
Warwick
yn gasach fyth pan wnaethpwyd
William
, mab ac aer
Herbert
, yn
Arglwydd Dunster
(
Medi 1466
), ac yn neilltuol gas pan aeth
Herbert
gyda'r
brenin
i fynnu cael
Sêl Fawr y Deyrnas
gan y
Canghellor
, sef
George
,
archesgob Caerefrog
a brawd
Warwick
(
Mehefin 1467
). Y flwyddyn ddilynol (
Gorffennaf 1468
) gorchmynnwyd i
Herbert
fyned i ddarostwng
Harlech
, a ddelid o hyd gan y
Lancastriaid
; cwympodd y castell ym mis Awst. Yn rhodd am hyn cafodd
Herbert
iarllaeth Pembroke
(
8 Medi
). Mewn cân darawiadol apeliodd
Guto'r Glyn
at
Herbert
ac erfyn arno ddyfod yn arweinydd cenedlaethol i'r
Cymry
ac erlid y swyddogion
Seisnig
o'r wlad. Pa fodd bynnag, gorchfygwyd yr
iarll
gan filwyr
Warwick
yn
Edgecote
(
Gorffennaf 1469
), cymerwyd ef yn garcharor, a
thorrwyd ei ben
. Yng ngolwg beirdd
Cymreig
yr oes yr oedd hyn yn drychineb cenedlaethol.
Llyfryddiaeth:
- Croniclau a llythyrau cyfoes;
- cyfeiriadau yng nweithiau'r beirdd Cymreig, etc.;
-
Calendar of Patent Rolls
. Record
Publication, 1891 ff
;
-
The Rolls of Parliament
;
-
Rymer
,
Foedera conventiones, litteræ, et
cujuscunque generis acta publica, inter reges Angliæ et
alios quosuis imperatores, reges, pontifices, principes,
vel communitates, ab ingressu Gulielmi I. in Angliam, A.D.
1066, ad nostra usque tempora habita aut tractata ex
autographis, infra secretiores archivorum regiorum
thesaurarias, asservatis, aliisque summæ vetustatis
instrumentis, ad historiam anglicanam spectantibus,
fideliter exscripta
, 1816-1830, 1869
;
-
H. T. Evans
,
Wales and the Wars of the Roses
,
1915
.
Awdur:
Howell Thomas Evans, M.A. (1878-1950), Aberaeron