HERBERT, WILLIAM (1460 - 1491),

Enw: William Herbert
Dyddiad geni: 1460
Dyddiad marw: 1491
Priod: Mary Herbert (née Woodville)
Plentyn: Elizabeth Somerset (née Herbert)
Rhiant: Anne Herbert (née Devereux)
Rhiant: William Herbert
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Milwrol
Awdur: Howell Thomas Evans

mab hynaf William Herbert, Iarll Pembroke (bu farw 1469). Dywed William o Worcester iddo gael ei ddyweddïo â Mary Woodville, chwaer y frenhines, a'i wneuthur yn arglwydd Dunster (Medi 1466); daeth yn iarll Pembroke ar farw ei dad. Dilynodd ei dad 'without proof of age' yn yr holl swyddi a ddaliai hwnnw, a rhoddwyd awdurdod iddo i dderbyn i warogaeth y brenin yr holl wrthryfelwyr o Gymry oddigerth Jasper Tudor. Bu'n gwasanaethu gyda'r brenin yn Ffrainc, 1475, a rhoddwyd iddo awdurdod i gymryd Walter ap Gwilym ac eraill i'r ddalfa, Hydref 1477. Ar gais y brenin cymerodd iarllaeth Huntingdon yn lle un Pembroke (Gorffennaf 1479). Yn 1483 cafodd gomisiwn i godi milwyr yn Ne Cymru i ddifodi gwrthryfel Buckingham yn erbyn Richard III. Cafodd flwydd-dâl o 400 marc (Mawrth 1484). Mary, merch Richard, iarll Rivers, oedd ei wraig; bu iddynt un plentyn - Elizabeth, a briododd Charles Somerset, iarll Worcester, cyndad dugiaid Beaufort.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.