HERBERT, EDWARD (1583 - 1648), barwn 1af Herbert (o) Cherbury

Enw: Edward Herbert
Dyddiad geni: 1583
Dyddiad marw: 1648
Priod: Mary Herbert (née Herbert)
Plentyn: Richard Herbert
Rhiant: Magdalen Herbert (née Newport)
Rhiant: Richard Herbert
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: barwn 1af Herbert (o) Cherbury
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Richard Ithamar Aaron

Ganwyd 3 Mawrth 1583 yn Eyton-on-Severn, mab Richard a Magdalen Herbert, castell Trefaldwyn. Aeth i Goleg University, Rhydychen, ym mis Mai 1596. Priododd Mary Herbert yn 1599 a bu'n byw yn Llundain i gychwyn cyn dychwelyd i Drefaldwyn yn 1605; yno cafodd ei ddewis yn ustus heddwch ac yn siryf.

Yn 1608 aeth ar daith i Ewrop - y gyntaf o'r teithiau a ddisgrifir mewn dull mor fywiog yn ei Life, un o'r hunangofiannau cyntaf yn yr iaith Saesneg. Dewiswyd ef yn llysgennad Lloegr yn Paris yn 1619, a bu'n byw yno mewn dull pur rwysgfawr hyd nes collodd y swydd yn 1624. Crewyd ef yn arglwydd Herbert (o) Cherbury yn 1629, eithr ymddengys ei fod yn siomedig am na chafodd ei gydnabod a'i ad-dalu fel y disgwyliai am ei wasanaeth i'r Goron. Yn ystod y Rhyfel Cartrefol yr oedd yn amhleidiol; gwrthododd droeon gydsynio â cheisiadau i ymuno â phlaid y Brenhinwyr. Pan gymerodd llu'r Senedd ei gastell, symudodd Herbert i Lundain, ac yno y bu farw ar 20 Awst 1648.

Yr oedd Herbert yn ŵr golygus, coegfalch, teimladol, ac yn feddyliwr dwfn a gwrol - yn gymysgfa ryfedd o athronydd a digrifwas. Yr oedd iddo bersonoliaeth gref a fowldiwyd mewn oes o drawsnewid - o oes prysurdeb a gweithgarwch cyfnod Elisabeth i oes rheswm blynyddoedd olaf cyfnod y Stiwartiaid. Y mae ei De Veritate, 1624, yn pontio'r agendor rhwng meddwl cyfnod y Dadeni a'r cyfnod presennol, ac y mae ei ysgrifeniadau ar grefydd yn dangos y ffordd tuag at ddeistiaeth a diwinyddiaeth ryddfrydig y cyfnod diweddarach.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.