HERBERT, DAVID (1762 - 1835), clerigwr

Enw: David Herbert
Dyddiad geni: 1762
Dyddiad marw: 1835
Priod: Mary Herbert (née Price)
Plentyn: Mary Parry (née Herbert)
Plentyn: William Herbert
Rhiant: Judith Herbert
Rhiant: William Herbert
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

mab William Herbert a Judith ei wraig; ganwyd yn y Rhiwbren, plwyf Llanarth, Sir Aberteifi. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Wadham, Rhydychen, lle y graddiodd yn B.A. yn 1790. Ordeiniwyd ef Ionawr 1791 gan esgob Rochester, ond dychwelodd i Gymru a daeth yn gurad Llanddeiniol, Sir Aberteifi, yng Ngorffennaf 1796. Yn Awst 1801 trwyddedwyd ef yn gurad Llansantffraed (Llanon), ac yn Awst 1812 codwyd ef yn ficer yno. Yn 1814 derbyniodd yn ychwaneg guradiaeth Llanrhystyd, ac yn 1834 eto guradiaeth barhaol Rhydybriw, ym mhlwyf Llywel, sir Frycheiniog. Priododd Mary Price, o'r Felindre Uchaf, Llanfihangel Ystrad; bu iddynt bump o blant. Dilynodd yr hynaf, William (1796 - 1893), ei dad, a bu'n ficer Llansantffraed (1836-1884); priododd yr unig ferch, Mary, y Parch. David Parry, Llywel. Claddwyd David Herbert 5 Rhagfyr 1835 yn Llansantffraed. Cofir amdano fel offeiriad efengylaidd y bu ei ddylanwad ar ei blwyfolion, ar ôl i'r Methodistiaid ymneilltuo o'r Eglwys, yn gryf ac yn effeithiol. Telir teyrngod arbennig i dreiddgarwch ei feddwl, i'w allu fel pregethwr, ac i'w ddawn i gymodi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.