HATTON, ANN JULIA ('Ann of Swansea'; 1764-1838), bardd a nofelydd

Enw: Ann Julia Hatton
Ffugenw: Ann Of Swansea
Dyddiad geni: 1764
Dyddiad marw: 1838
Priod: William Hatton
Priod: C. Curtis
Rhiant: Sarah Kemble (née Ward)
Rhiant: Roger Kemble
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: bardd a nofelydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Cecil John Layton Price

Ganwyd 29 Ebrill 1764 yn Worcester, seithfed plentyn Roger Kemble a Sarah Ward. Gan ei bod yn gloff ni allai ddilyn yn ôl traed ei rhieni a dyfod yn actres, a chyn ei bod yn 19 oed bu mor anffodus â phriodi a chael ei gadael gan ddyn anturus a diegwyddor o'r enw Curtis. Cyhoeddodd, gyda chymorth tanysgrifwyr, Poems on Miscellaneous Subjects (London, 1783). Priododd William Hatton yn 1792 ac aeth gydag ef i America. Cymerodd y ddau brydles ar y Swansea Bathing House yn 1799. Pan fu farw ei gwr yn 1806 symudodd Ann i Gydweli lle y bu'n cadw ysgol dysgu dawnsio. Yn 1809 dychwelodd i Abertawe ac ymroi i ysgrifennu, gan gael ei chynnal gan flwydd-dâl a roddid iddi gan J. P. Kemble a Sarah Siddons. Ysgrifennodd ddrama o'r enw Zaffine i'r actiwr ieuanc Edmund Kean. Dengys ei Poetic Trifles (Waterford, 1811) fod ganddi beth dawn telynegol. Rhwng 1815 a 1831 ysgrifennodd ddwsin o nofelau o leiaf. Bu farw 26 Rhagfyr 1838.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.