HARRIS, THOMAS (1705 - 1782)

Enw: Thomas Harris
Dyddiad geni: 1705
Dyddiad marw: 1782
Plentyn: Elizabeth Robinson
Plentyn: Thomas Robinson
Rhiant: Susanna Harris (née Powell)
Rhiant: Howell Harris
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Perchnogaeth Tir; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ail fab Howel a Susannah Harris, Trefeca, a brawd i Howel a Joseph Harris. Bedyddiwyd yn Nhalgarth 6 Ionawr 1705. Aeth i Bath yn 1728, ac yn 1729 i Lundain, ar y cychwyn yn deiliwr gyda'i ewythr Solomon Powell ac wedyn ar ei gyfrifoldeb ef ei hunan.

Bu gryn 40 mlynedd yn Llundain; ar waethaf anffodion ar y dechrau, gwnaeth arian dirfawr gan werthu dillad i'r fyddin. Yn 1768 yr oedd yn siryf Brycheiniog, a phrynodd stadau Trefeca a Thregunter; adnewyddodd blasty Tregunter yn 1770. Afreolaidd fu ei fuchedd yn Llundain, roedd yn briod, ond ni wyddys pwy oedd ei wraig, na pha bryd y bu hi farw, ac yr oedd ganddo o leiaf dri phlentyn. O'r rhain, ymunodd merch, Elizabeth Robinson, â phobl Trefeca pan oedd hi'n byw yn Nhregunter, ac y mae mab, Thomas Robinson, dyn meddw a thaeogaidd, yn hysbys fel priod yr actores enwog Mary Darby ('Perdita ' - y mae ysgrif arni yn y D.N.B.); yn nhy Trefeca y ganed eu merch, a fedyddiwyd yn Nhalgarth 25 Hydref 1774. Rhydd Mrs. Robinson ('Perdita') inni ddisgrifiad didderbyn-wyneb o deithi ei thad-yng-nghyfraith yn ei hunangofiant Memoirs of the late Mrs. Robinson written by herself (1803). Ni wnaeth ef fawr ddim drosti, gan adael ei eiddo i'w nith, merch ei frawd Joseph.

Bu Thomas Harris farw 23 Medi 1782. Y mae llythyrau a basiodd rhyngddo a'i frawd Howel yng nghasgliad Trefeca yn Ll.G.C.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.