HARRIS, JOHN RYLAND ('Ieuan Ddu '; 1802 - 1823)

Enw: John Ryland Harris
Ffugenw: Ieuan Ddu
Dyddiad geni: 1802
Dyddiad marw: 1823
Rhiant: Martha Harris (née Symons)
Rhiant: Joseph Harris
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Joseph Rhys

Ganwyd 12 Rhagfyr 1802 yn Abertawe, mab i ' Gomer.' Dysgodd argraffu gyda D. Jenkin. Pan fethodd Jenkin sicrhaodd ' Gomer ' ei swyddfa i'w fab. O 1816 ymlaen ' Ieuan ' a gysodai'r cwbl, a'r tad wedi oriau'r ysgol yn cywiro'r proflenni. Er mwyn dysgu'r ieithoedd clasur cai wersi preifat oddeutu 1822, a mynychai Goleg Hamsworth gerllaw. Ysgrifenasai Cymorth i Chwerthin cyn ei fod yn 12 oed, a'i ail argraffu. Ysgrifennodd lawer i Seren Gomer. Ffurfiodd gymdeithas o'r Cymreigyddion yn Abertawe ac ef ond 17 oed. Er mwyn cyfarwyddo pobl i ganu, cyfansoddodd Grisiau Cerdd Arwest, yn sylfaenedig ar lyfrau Peck, Rippon, ac Owen Williams o Fôn; fe'i hail argraffwyd yn 1825. Prydyddai weithiau, ac er na fu'n aelod, ef a lediai'r canu â'i bibell yn y capel. Bwriadodd gyhoeddi 'Geiriadur Saesneg a Chymraeg,' a 'Geirlyfr Barddonol,' eithr clafychodd, a bu farw 4 Rhagfyr 1823.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.