HARRISON, RICHARD (1743 - 1830), pregethwr lleol gyda'r Wesleaid

Enw: Richard Harrison
Dyddiad geni: 1743
Dyddiad marw: 1830
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr lleol gyda'r Wesleaid
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Albert Hughes Williams

Ganwyd 1 Hydref 1743. Wedi ei dröedigaeth, yn 1766, daeth yn aelod o seiat y Methodistiaid Wesleaidd a gyfarfyddai yn yr Octagon, Caer, wedyn o'r un yn Bryngwyn, ac, yn ddiwethaf oll, o'r soseieti a ffurfiwyd yn ei gartref yn Llaneurgain, Sir y Fflint, rywbryd cyn 1774. Gwehydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, eithr rhoes lawer o'i amser i hyrwyddo Methodistiaeth Wesleaidd yn siroedd Dinbych a Fflint. Efe oedd un o'r rhai cyntaf i ledaenu ac egluro Arminiaeth John Wesley yng Ngogledd Cymru, a bu ei gyngor a'i gymorth yn werthfawr dros ben i Evan Roberts, Dinbych, Edward Jones, Bathafarn, a'r Parchn. Owen Davies a John Hughes (gweler hwy).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.