Cywiriadau

HARRY, GEORGE OWEN (neu GEORGE OWEN) (c. 1553 - c. 1614), hynafiaethydd

Enw: George Owen Harry
Dyddiad geni: c. 1553
Dyddiad marw: c. 1614
Rhiant: Maud ferch Ffylip ap Sion ap Tomas
Rhiant: Owen Harry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Bertie George Charles

Yn ôl yr achau a roddodd ef ei hun i Lewis Dwnn, mab ydoedd i Owain ap Harri o Lanelli a'i wraig Maud, merch Ffylip ap Sion ap Tomas o ' Hendremor,' Gŵyr. Sefydlwyd ef yn rheithor yr Eglwyswen yng Nghemais, Sir Benfro, ar 18 Mawrth 1584, ar gyflwyniad George Owen o Henllys. Bu hefyd yn rheithor Llanfihangel Penbedw yn yr un ardal a gwasnaethai'r ddwy eglwys gyda'i gilydd o 1597 hyd 1613 neu ragor. Yr oedd y rheithor yn ymwelydd cyson yn Henllys, gan nad oedd yr Eglwyswen ond cam oddi yno, a bu'r ddau hynafiaethydd yn mwynhau cyfeillach a diddordebau llenyddol ei gilydd am yn agos i 30 mlynedd. George Owen Harry oedd awdur The Genealogy of the High and Mighty Monarch, James… King of great Brittayne, &c. with his lineall descent from Noah, by divers direct lynes to Brutus (London, 1604). Pwrpas y llyfr hwn ydoedd dangos addasrwydd Iago I, o ran ei achau, i reoli dros holl wledydd Prydain. Fe'i cyfansoddwyd ar gais Robert Holland, clerigwr arall o Sir Benfro, a ysgrifennodd ar ei gyfer lith ragarweiniol cyflwynedig i'r brenin. Priodolir hefyd i George Owen Harry un llyfr arall yn dwyn y teitl The Well-sprynge of True Nobility, gweler llawysgrif NLW MS 9853E . Yr oedd hefyd yn achydd, a cheir copi o waith o'i eiddo ar arfau bonedd Penfro.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

HARRY, GEORGE OWEN

Ceir ymdriniaeth lwyr o waith cylch cyfeillion George Owen Harry gan B. G. Charles , George Owen of Henllys: a Welsh Elizabethan (Aberystwyth, 1973), ac ymdriniaeth fanwl o fywyd a gwaith yr achydd a hynafiaethydd gan E. D. Jones ' George Owen Harry ', Pembrokeshire Historian, 6 (1979), 58- 75. Ar sail ei dystiolaeth mewn achos yn 1613-14 bernir ei fod wedi ei eni tuag 1553. Gwnaeth ei ewyllys (lle y gedy gryn offer ym mhlwyf Reynoldston, Gwyr) ar 8 Chwefror 1611-12, a bernir ei fod wedi marw erbyn haf 1614. Dywedir gan E. D. Jones nad oes dystiolaeth bod gwaith George Owen Harry The Wellspring of True Nobilitie wedi ei gyhoeddi'n llyfr, ond bod Thomas Salesbury wedi cyhoeddi'r darn yn ymwneud ag ach y brenin Iago I yn Llundain yn 1604. Fodd bynnag, fe gyflwynwyd llawysgrif o'r cyfan, bron, o lyfr The Well-Spring i'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1956 gan Syr Michael Dillwyn-Venables-Llewelyn, llawysgrif sydd yn gopi da a wnaethpwyd yn gynnar yn yr 17eg ganrif. Mae'n ddrych o ddiddordebau hynafiaethol a hanesyddol George Owen Harry

Yr oedd George Owen Harry yn un o dri o blant Owen Harry a briododd dri o blant Thomas Lucas, The Hills, Reynoldston, Gwyr, sydd yn awgrymu cysylltiad cryf iawn â'r fro honno. Dywed George Owen Harry ei hun yn yr ach a roes yn 1597 i Lewys Dwnn (Dwnn, Heraldic Visitations, i, 32-3) fod ei gyndadau yn dod gan mwyaf o Lanelli, er bod ei fam yn ferch i wr o dir Gwyr a oedd yn briod ag aelod o deulu Crump, a oedd â'u cartref yn Sanctuary, Pen-rhys. Fe gredid yng Ngwyr mai dyn oddi yno oedd George Owen Harry, ac nid o Sir Gaerfyrddin. Wrth ddisgrifio Reynoldston i Edward Lhuyd yn y 1690au (F. V. Emery, Trafodion y Cymmrodorion, 1965, 103) dywed Isaac Hamon, ' In this parish Sr. Geo: Owen clerke, was born, called by some, George Owen Harry, he was the third son of Owen Harry Owen a freeholder of this parish '. Mewn llawysgrif achyddol (LlGC, Castell Gorfod llawysgrif 8, f. 141) a wnaed tuag 1700 a nodiadau a gasglwyd gan Isaac Hamon o bosib, fe roddir George Owen Harry yn drydydd mab Owen Harry o Reynoldston. Mae'n debyg bod Isaac Hamon yn bur gyfarwydd ag wyr George Owen Harry, John Owen, ficer Pennard yng Ngwyr, a fu farw yn 1690. Fe seiliwyd yr ach a roddir gan lawysgrif Castell Gorfod 8, mae'n debyg, ar lyfr achau William Bennett o gastell Pen-rhys, a wnaed ganddo tuag 1630. Mae'r llawysgrif yn y Royal Institution of South Wales, Abertawe. (Gweler y mynegai i lyfr Bennett gan G. Grant Francis, tt. 158, 188, 189). Yma y ceir George Owen Harry yn bedwerydd mab Owen Harry o Reynoldston, ac y mae'r ddwy ach yn mynd â'r llinach yn ôl at Morris de Novo Castro neu Morris Castell o Lanelli yn amser Edward II, ac yn naturiol, yn cadarnhau bod tri phlentyn Owen Harry wedi priodi â phlant Thomas Lucas o Reynoldston.

Nid oes modd cysoni'r achau hyn â'r ach a roddir yn llyfr Lewys Dwnn, ond ni ellir anwybyddu'n llwyr y dystiolaeth a geir gan William Bennett, gan ei fod yn byw yn yr un cyfnod â George Owen Harry ac yn byw o fewn tafliad carreg i bentref Reynoldston.

Awduron

  • Francis Michael Gibbs
  • Prys Morgan

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.