Daethai ei dad o
Langadog
,
sir Gaerfyrddin
, i
Dalgarth
,
sir Frycheiniog
,
c.
1700
. ‘
Howell
Powell
, alias
Harris
’ y gelwir ef yng nghofrestr
Talgarth
, a phriododd â
Susanna
Powell
,
Trefeca-fach
, yn
1702
. Eu cyntafanedig oedd
Joseph
Harris
[q.v.]
ac enwogodd eu mab
Thomas
[q.v.]
yntau ei hun; g.
Howel
, eu mab ieuangaf,
23 Ionawr 1714
. Addysgwyd
Howel
yn
Llwyn-llwyd
, a bu'n
ysgolfeistr
yn
Llangors
a
Llangasty
yn y blynyddoedd
1732-5
. Cafodd argraffiadau dwys yn
1735
dan weinidogaeth
Pryce
Davies
,
ficer
Talgarth
, a dechreuodd
efengylu
o gwmpas ei gartref. Ymaelododd yn
S. Mary's Hall
,
Rhydychen
, ond cefnodd ar y brifysgol cyn pen wythnos. Ymgeisiodd am urddau eglwysig yn
1736
, ond gwrthodwyd ef oblegid ei fod yn
pregethu
'n afreolaidd. (Digwyddodd hynny fwy nag unwaith yn ddiweddarach am yr un rheswm.) Ymgynghorodd â
Griffith
Jones
[q.v.]
, a phwyswyd arno i ymdawelu ond nis mynnai. Daeth i gyswllt â
Daniel
Rowland
[q.v.]
yn
1737
, a dechreuasant gydweithio. Ymhlith ei ddychweledigion cyntaf yr oedd
Howell
Davies
[q.v.]
a
William
Williams
,
Pantycelyn
[q.v.]
. Ymunodd y gwŷr hyn â'i gilydd mewn sasiwn yn
1742
, a bu cyfathrach rhyngddynt a'r
mudiad Methodistaidd
cyffelyb yn
Lloegr
. Cymerth y
diwygwyr
Cymreig
blaid
George
Whitefield
yn y
ddadl Galfinaidd
, ond cyfeillachai
Harris
yn gyson â'r ddau
Wesley
gan geisio undeb. Yn
1744
priododd
Anne
Williams
, merch
John
Williams
,
yswain
, o'r
Ysgrin
. Treuliodd y blynyddoedd nesaf yn
pregethu
yng
Nghymru
a
Lloegr
a
sefydlu seiadau
fel y cerddai. Daeth o dan gyfaredd y
Morafiaid
a dechreuodd goleddu athrawiaeth
Batripasaidd
er mawr ofid i'w gyfeillion. Heblaw hynny, dylanwadwyd arno gan wraig gyfoethog o ‘
broffwydes
’ (chwedl yntau) —
Mrs.
Sidney
Griffith
o
Gefn Amwlch
,
sir Gaernarfon
[q.v.]
. Aeth yn rhwyg rhyngddo a'i frodyr yn
1750
, ac ymrannodd y
Methodistiaid Cymreig
yn ddwy blaid, sef pobl
Rowland
a phobl
Harris
. Llesteiriodd hynny lwyddiant y diwygiad crefyddol mewn llawer ardal.
Ymneilltuodd
Harris
i
Drefeca
yn
1752
, a sefydlodd ‘Deulu’ yno o blith ei ganlynwyr; cafodd gynorthwywyr glew ym mhersonau
Evan
Moses
[q.v.]
a
Thomas
William
,
Eglwys Ilan
[q.v.]
. Adeiladwyd yn helaeth yn
Nhrefeca
ar gyfer y ‘Teulu,’ a threfnwyd crefftau a galwedigaethau amrywiol er cynnal yr aelodau.
Ymddiddorodd mewn amaethyddiaeth
, a bu'n un o sefydlwyr
Cymdeithas Amaethyddol
Brycheiniog
— yr hynaf o'i bath yng
Nghymru
. Y dyddiau hynny ofnid ymosodiad gan y
Ffrancwyr
ar y wlad: ffurfiodd
Harris
gatrawd o filwyr o blith aelodau'r ‘Teulu’ a bu'n
gapten
arni. Teithiodd gydag adran o'r milisia am dymor, ond rhoes ei gomisiwn i fyny pan giliodd y perygl. Ymunodd â'i hen gyfeillion yn
1762
, ac ailafael yn y gwaith o fynychu'r sasiynau, ymweld â'r seiadau, a phregethu megis cynt. Nid oedd ganddo'r un ynni â chynt, a theimlai wrthwynebiad cryf yn ei erbyn ymhlith y cynghorwyr di-urddau. Ni fynnai'r rheini mo'u llywodraethu ganddo. Gwrthwynebai yntau'r duedd i ymwahanu oddi wrth
Eglwys Loegr
, codi capeli, a gorseddu'r sasiwn yn llys llywodraethol. Rhoes ei gefnogaeth, serch hynny, i'r
Arglwyddes Huntingdon
, a
gododd athrofa i addysgu pregethwyr efengylaidd
yn
Nhrefeca-isaf
yn
1768
. Dechreuodd glafychu yn
1772
, bu f.
21 Gorffennaf 1773
, a chladdwyd ei gorff ger yr allor yn eglwys
Talgarth
.
Nid oedd yn gymaint llenor ag eraill o'r
diwygwyr Methodistaidd
, ond
canodd rai emynau
. Ceir y rheini yn llyfrynnau'r cyfnod, megis
Llyfr o Hymneu o Waith Amryw Awdwyr
,
1740
, a
Sail, Dibenion, a Rheolau'r Societies
,
1742
. Cyhoeddodd
gwasg Trefeca
ychydig ohonynt yn
Ychydig Lythyrau… Ynghyd â Hymnau
yn
1782
. O'r un wasg ymddangosodd
Cennadwri a Thystiolaeth Ddiweddaf Howell Harris
yn
1774
(arg.
Saesneg
yr un flwyddyn). Gadawodd nifer o ddyddiaduron ar ei ôl sy'n cynnwys cyfrif manwl o'i brofiadau, hanes ei deithiau a'i bregethu am gyfnod helaeth. O'r dyddiaduron hyn y cafodd y ‘Teulu’ ddefnyddiau'r hunangofiant a gyhoeddwyd yn
1791
(arg.
Cymraeg
,
Hanes Ferr
, etc.,
1792
). Cyhoeddwyd llawer o gynnwys y dyddiaduron o bryd i'w gilydd eithr y mae mwy ar ôl heb ei gyhoeddi. Ei bregethu oedd ei gyfraniad pennaf i'w genedl. Bu'n gyfrwng i ddeffro'r werin
Gymreig
o'i chysgadrwydd a pheri iddi ddyfod o hyd i'w chyneddfau ysbrydol. Yr oedd yn
un o lunwyr Cymru fodern
. Er gwaethaf ei dymer afrywiog a'i ewyllys unbenaethol yr oedd ei ynni diorffwys a'i awydd angerddol am achub eneidiau yn cario popeth o'i flaen ym mlynyddoedd cynnar y deffroad crefyddol. Y mae ei ddylanwad ar fywyd y genedl yn braw mai ef oedd grym ysbrydol mwyaf ei oes, a chred llawer mai ef oedd
Cymro
pennaf ei gyfnod.
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen /
Llandudoch / Llandybïe
Bedyddiwyd plentyn cyntaf
Harris
,
ANNE
, ar
14 Rhagfyr 1746
, ond claddwyd ar
7 Ionawr 1748/9
. Bedyddiwyd y plentyn arall,
ELIZABETH
HARRIS
(
PRICHARD
wedyn) ar
18 Rhagfyr 1748
. Daw bron y cwbl a wyddom amdani o gyfeiriadau ati mewn cofnodion
Morafaidd
gan
Lorenz
Nyberg
a
Benjamin La
Trobe
, cyfeillion ei thad (argraffwyd yn y
Llenor
, xiv, 243;
Traf. Cymd. Hanes Bed.
,
1935
, 14, 23-4; a'r
drydedd bennod yn
Er Clod
,
1935
), ac yn nyddlyfrau
Thomas
Roberts
o
Drefeca
(yn
Ll.G.C.
). Merch dda ei chalon, gellid meddwl, a byrbwyll, a deimlai'n gynyddol annifyr yn rhigolau
Trefeca
wedi m. ei thad. Ar
10 Mai 1782
priodwyd hi, yn
Nhalgarth
, â
Charles
Prichard
,
meddyg
o
Aberhonddu
; argraffwyd y cofnod gan
M. H.
Jones
yn
Cylch. Cymd. Hanes M.C.
, ix; y tystion oedd ei chefnder
Samuel
Hughes
(gw. dan
Harris
,
Joseph
) a'i chyfnither
Elizabeth
Robinson
(gw.
Harris
,
Thomas
). Un o hen deulu
Pabyddol
y Graig
yng
Ngwent
oedd
Prichard
(
Theophilus
Jones
,
Hist. of Brecknock
, 3ydd arg., iii, 30), a gŵr gweddw â chanddo dri (pedwar, medd rhai) o blant; bu f.
10 Tachwedd 1804
, yn 73 oed. Cafodd ef ac
Elizabeth
bump o blant (ibid.). Bu
Elizabeth
f.
8 Chwefror 1826
, a'i chladdu ym mhriordy
Aberhonddu
; y mae copi o garreg ei bedd, op. cit., ii, 103.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor