HARRIES
,
EVAN
(
1786
-
1861
),
gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
;
g. yn
Nhŷ'n-y-llan
,
Llanwrtyd
,
7 Mawrth 1786
, mab
Henry
ac
Anne
Harries
. Ei frawd hynaf oedd
William
Harries
,
Trefeca
. Priododd
Mariah
, merch y
Parch.
Dafydd
Parry
,
Llanwrtyd
,
1808
. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth
Ebenezer
Richard
yn
1812
; ymunodd ag
eglwys Pontrhyd-y-bere
a dechreuodd
bregethu
yn
1814
. Aeth i fyw i
Aberhonddu
yn
1818
i fasnachu fel
brethynwr
. Ordeiniwyd ef yn
sasiwn Llangeitho
,
1826
. Symudodd i
Ddowlais
yn ddiweddarach ac ymsefydlodd wedyn ym
Merthyr Tydfil
, lle y treuliodd weddill ei oes. Bu'n un o brif
bregethwyr
Methodistiaid
Morgannwg
, a chofir hyd heddiw ei ddywediadau ffraeth. Bu'n
un o arweinwyr ei gyfundeb
hefyd.
Saer
ac
adeiladydd
ydoedd o ran ei grefft, a gwasanaethodd fel
pensaer
i'w enwad. Codwyd nifer mawr o gapeli'r sir dan ei arolygiaeth. Bu f.
20 Tachwedd 1861
, a chladdwyd ef ym
mynwent y Graig
,
Merthyr
.
Llyfryddiaeth:
-
Y Drysorfa
,
1862
, 33-4;
-
Thomas Levi
,
Cofiant a Phregethau E. Harries,
Merthyr
, 1869
,
1869
, ail arg.
1906
.
Awdur:
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen /
Llandudoch / Llandybïe