Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HARRI , EDWARD ( 1752? - 1837 ) bardd a gwehydd ; g. yn Penderyn , sir Frycheiniog , eithr symudodd yn gynnar yn ei oes i Cefn-Coed-y-Cymer . Pan fu f. ar 20 Awst 1837 , yn 85 oed, yr oedd wedi bod am 60 mlynedd yn aelod yn ‘Hen Dŷ Cwrdd’ Cefn Coed , eglwys Undodaidd , ac yn briod am 50 mlynedd. Fe'i goroeswyd gan bedwar o blant a 32 o ŵyrion ac ŵyresau; yr oedd ‘ Cynonwyson ’ yn fab i un o'i ferched. Ar un cyfnod, pan oedd yn gyfyng ei amgylchiadau, talodd ei eglwys 1/- iddo — ‘ Charity to Edward Harri , 1/-. ’ Ceir y cofnod hwn hefyd yn un o lyfrau'r eglwys — ‘ July 22, 1827 , Edward Harri , weaver , and his wife have been restored and partook of the Lord's Supper .’ Ychydig o'i waith barddonol sydd ar gadw — dim ond ‘ Cynghorion idd ei ŵyr ’ a ‘ Galar-gan ar ol ei wraig .’ Yr oedd William Harri , Garw Dyle [q.v.] , yn frawd iddo.

Llyfryddiaeth:

  • W. Morgan , The Illustrated Vaynor handbook containing photographic views of Vaynor, Cefn Coed, Pontsarn and Morlais Castle, with the history and folk-lore of the parish , 1893 , 1893 ;
  • T. Lewis , Hanes Hen Dy Cwrdd, Cefn Coed y Cymer , 1947 , 1947 .

Awdur:

Watkin William Price, M.A., (1873-1967), Aberdâr