Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HALL , BENJAMIN ( 1802 - 1867 ), Arglwydd Llanover , mab Benjamin Hall ( 1778 - 1817 ) ; g. 8 Tachwedd 1802 . Priododd Augusta Waddington 4 Rhagfyr 1823 . Fe'i dewiswyd yn aelod seneddol dros fwrdeisdrefi sir Fynwy yn 1831 eithr collodd ei sedd ar ôl i betisiwn gael ei hystyried; fe'i hetholwyd eilwaith yn 1832 a pharhaodd yn aelod dros y bwrdeisdrefi hyd 1837 pryd y daeth yn aelod dros Marylebone . Fe'i gwnaethpwyd yn farwnig yn 1838 . Ym mis Gorffennaf 1855 daeth yn Gomisiynwr Gwaith (' Commissioner of Works ) a gelwir cloc mawr Westminster , a wnaethpwyd pan oedd Syr Benjamin Hall yn gomisiynwr , yn ‘ Big Ben .’ Cafodd ei wneuthur yn farwn 29 Mehefin 1859 — yn ystod ail dymor Palmerston fel prif weinidog — a'i alw'n Baron Llanover (‘of Llanover and Abercarn’) . Bu f. 27 Ebrill 1867 . Bu'n dadlau'n gryf gyda'r esgob Connop Thirlwall ar stad yr eglwys yn esgobaeth Tyddewi gan amdiffyn hawl pobl Cymru i gael gwasanaethau crefyddol yn eu hiaith eu hunain.

Eithr y mae ei wraig, yr arglwyddes Llanover , yn fwy pwysig yn hanes Cymru nag ydyw ef. Ganed AUGUSTA WADDINGTON ar 21 Mawrth 1802 , yn ferch iau Benjamin Waddington , Tŷ Uchaf, Llanover , a Georgina Port , gor-nith Mrs. Delaney . Pan briodwyd Augusta Waddington a Benjamin Hall unwyd dwy stad gyfagos — Llanover ac Abercarn . Yr oedd ei chwaer hi wedi priodi y barwn Bunsen (a fu'n llysgennad yr Almaen ym Mhrydain yn ddiweddarach) ac felly yn byw ymysg pobl yn cymryd diddordeb mewn astudiaethau Celtaidd. Yn 1834 , mewn eisteddfod yng Nghaerdydd , enillodd Augusta wobr am draethawd ar yr iaith Gymraeg , a thua'r adeg hon mabwysiadodd yr enw barddol, ‘ Gwenynen Gwent .’ O dan ddylanwad Thomas Price (‘ Carnhuanawc ’) daeth yn aelod cynnar o Gymreigyddion y Fenni . Er mai ychydig o Gymraeg a siaradai hi fe drefnodd ei chartre ar linellau Cymreig a rhoes deitlau Cymraeg i'w gwasanaethyddion . Yr oedd yn noddwr i'r ‘ Welsh Manuscripts Society ’ ac i'r ‘ Welsh Collegiate Institution ,’ Llanymddyfri . Prynodd lawysgrifau Edward Williams (‘ Iolo Morganwg ’) gan ei fab Taliesin Williams (‘ ab Iolo ’) — y maent bellach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru . Bu'n cyd-weithio â Maria Jane Williams , Aberpergwm , a Brinley Richards , yn y gwaith o gasglu alawon gwerin Cymru ; rhoes hefyd gymorth ariannol i'r canon D. Silvan Evans gyda'i eiriadur mawr. Yr oedd iddi ddau ddiddordeb arall — yr achos dirwestol a Phrotestaniaeth bybyr. Gwaddolodd ddwy eglwys Bresbyteraiddcapel Rhyd y Meirch ac Abercarn — lle yr oedd y gwasanaeth i fod yn Gymraeg . Golygodd , mewn chwe chyfrol, The Autobiography and Correspondence of … Mrs. Delaney (cyhoeddwyd yn 1861 a 1862 ), cyhoeddodd gymysgfa o'r enw Good Cookery … and Recipes communicated by the Hermit of the Cell of St. Gover … 1867 , gyda darluniau wedi eu gwneuthur ganddi hi ei hunan, ac, yn fwy pwysig o'r safbwynt Gymreig , gasgliad o ddarluniau lliw o wisgoedd merched yn rhai o siroedd Cymru ( c. 1843 ). Yr oedd wedi goroesi ei gŵr am dros 28 mlynedd pan fu f. 17 Ionawr 1896 .

Yr unig blentyn o'r briodas a fu byw ydoedd Augusta , a briododd 12 Tachwedd 1846 , Arthur Jones , Llanarth , aelod o hen deulu Pabyddol a fabwysiadodd y cyfenw Herbert yn ddiweddarach. Daeth eu mab hwy, Major General Syr IVOR HERBERT ( 1851 - 1934 ), yn arglwydd Treowen yn 1917 . Efe a drosglwyddodd y Llanover MSS. i'r Llyfrgell Genedlaethol (yn 1916 ).

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • John Lloyd , The early history of the old South Wales Iron Works (1760 to 1840) from original documents , 1906 , 1906 ;
  • W. R. Williams , The History of the Parliamentary Representation of Wales , 1895 , 1895 ;
  • The Cardiff Times , 25 Ionawr 1896 .

Awdur:

Yr Athro Emeritus David Williams, D.Litt., (1900-78), Aberystwyth