Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GWYNNE , SACKVILLE ( c. 1751 - 1794 ), aelod o dylwyth mawr Gwynniaid Glanbrân ger Llanymddyfri (aeth y plas ar dân ers tro mawr, ond erys ei adfeilion); am y teulu'n gyffredinol gw. dan ‘ Gwynne o Lanelwedd .’ Yn ôl W. R. Williams ( Old Wales , iii, 286-8), fe'i g. tua 1751 — os felly, y mae'r cyfeiriadau ato, yn Llyfr Cerdd Dannau a llyfrau Cymraeg eraill, fel ‘hen fonheddwr,’ braidd yn gamarweiniol. Priododd, yn Nulyn yn 1772 , â merch i un o denantiaid Glanbrân , heb i'w dad wybod, ac am hynny gadawyd rhan o'r stadau i'w frawd iau ( 1774 ). Bu f ei wraig yn 1787 ; ailbriododd yntau yn 1793 , ond bu farw yn 1794 cyn geni merch iddo yn Awst yn y flwyddyn honno. Hynodrwydd Sackville Gwynne oedd ei hoffter o'r delyn . Tystia Bardd y Brenin ’ ei fod yn un o'r ddau ganwr gorau yn ei ddydd ar y delyn deires . Yr oedd hefyd yn noddwr telynorion — gw. e.e. dan Wood ; ac yng Nglanbrân y bwriodd y gwneuthurwr telynau John Richards ( 1711 - 1789 ) o Lanrwst ei flynyddoedd diwethaf (yn Llanfair-ar-y-bryn y mae ei fedd). Fel y gwelir yn yr ysgrif Wood ,’ daliodd nawdd telynorion yng Nglanbrân dan etifedd ysblennydd ac afradus Sackville Gwynne , o'r un enw ag ef.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor