Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GWYNNE ( GWINNE , GWYN , neu WYNNE ), ROBERT (JOHNS) ( fl . 1578 ), cenhadwr ac awdur Pabyddol ; y mae'n debyg ei fod o deulu Bodvel [q.v.] — efallai ei fod yn fab i John Wyn ap Hugh gan ei fod yn ei alw ei hun yn un o'i ysgrifeniadau yn ‘ Robert Johns gwyn .’ Aeth i Goleg Corpus Christi , Rhydychen , a graddio'n B.A. yn 1568 . Tua thair blynedd wedi hynny fe'i perswadiwyd gan ei gymydog Robert Owen , Plas Du , sir Gaernarfon [q.v.] , i beidio â mynychu gwasanaeth Eglwys Loegr a dianc dros y môr. Aeth i seminari Douay yn 1571 yng nghwmni Thomas Crowther , Cymro o esgobaeth Henffordd a raddiodd yn Rhydychen tua'r un adeg ag yntau a thua'r amser y graddiodd Robert Owen hefyd. Cymerodd ei B.D. ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1575 a chafodd ei anfon i'r genhadaeth yn Lloegr y flwyddyn ddilynol. Aeth yn syth i'w ardal enedigol a rhoddwyd lloches iddo yn yr ystafell ddirgel yn Plas Du gan Thomas , brawd Hugh Owen . Yn gynnar iawn daeth newyddion i Douay am lwyddiant eithriadol ei genhadaeth, yn enwedig ymysg gwragedd yr ardal, ac am ddiflastod yr esgob , Nicholas Robinson [q.v.] , pan geisiodd hwnnw ddyfod â chyngaws yn erbyn y dychweledigion. Ysgrifennodd lawer yn Gymraeg er mwyn lledaenu ei ffydd, gan gyfieithu Christian Directory Robert Parsons ( Llyfr y Resolusion ); awgrymwyd mai efe ydoedd awdur y farwnad ffyrnig i Wilym o Orange (bu f. 1584 ), y dywedir hefyd mai Richard Gwyn [q.v.] a'i hysgrifennodd. Yn 1578 , pan nad oedd mwyach ddim esgobion Pabaidd wedi eu gadael yn rhydd yn Lloegr , rhoes y pab Gregory XIII ryw gymaint o awdurdod esgobol iddo dros y cyfnod arbennig hwnnw. Ni wyddys ddim am ei hanes diweddarach, ond ymddengys ei fod yn fyw yn 1591 .

Llyfryddiaeth:

  • Foster , Alumni Oxonienses , i, 624;
  • Wood , Athenae Oxonienses , 1813–20 (gol. Bliss ), i, 586;
  • Oxford Historical Society , i, 271;
  • First Douay Diary and The Second Douay Diary , 5,7,24 100 108, 259, 288;
  • Adroddiadau'r ‘Historical Manuscripts Commission,’ , ii, 309;
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1936 , 117; 1937, 117-8, 128;
  • Oxford Dictionary of National Biography , xxiii, 399.

Awdur:

Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor