GWYNNE o LANELWEDD yn sir Faesyfed

Ymddengys i deulu 'Gwyn' yn Llanelwedd gychwyn gyda mab ieuengaf i Rydderch ap Dafydd Goch Gwyn, o dylwyth mawr a changhennog Glanbrân (Llanymddyfri) a mannau eraill; y mae ymdriniaeth helaeth â'r tylwyth hwn yn Old Wales (gol. W. R. Williams), ii, iii (mynegai), ac argraffwyd achau, anghyson ar brydiau, yn Theophilus Jones, Hist. of Brecknock, 3ydd arg., iii, 199-200; iv, 246-8 - yr ach rhif 21 sy'n delio'n unswydd â Llanelwedd; ac yn Bradney, Monmouthshire, I, i, 408-9. Yr oedd RODERICK GWYNNE o Lanelwedd yn siryf Maesyfed yn 1633. Breniniaethwr oedd ef, a bu'n casglu milwyr i'r brenin. Daeth ei ferch, SIBIL GWYNNE, yn wraig i'w châr GEORGE GWYNNE, Glanbrân (ganwyd 1623?), a arwyddodd yn 1645 y cynnig am heddwch a anfonodd uchelwyr Sir Gaerfyrddin i Rowland Laugharne, ac a fu ddwywaith yn ddirprwywr dan Cromwell ac yn aelod seneddol dros sir Faesyfed yn 1654 a 1656; ond ymchwelodd wedyn at blaid y brenin, ac yr oedd yn aelod seneddol dros Faesyfed yn yr Adferiad, ac yn siryf Mynwy (sir ei fam) yn 1663. Mab hynaf y briodas hon oedd Syr ROWLAND GWYNNE (1660 - 1726), a aeth i Goleg S. Ioan yn Rhydychen ac i Gray's Inn, ac a fu'n aelod seneddol am 23 blynedd o'r bron; dros sir Faesyfed 1678-85, dros Frycheiniog 1689-90, 1698, 1700-1, a thros fwrdeisdref yn Lloegr yn y blynyddoedd eraill. Er i Siarl II ei urddo'n farchog (1680), Chwig pendant oedd Rowland Gwynne, a chenir ei glod gan Macaulay yn ei History. Efe a awgrymodd y 'Llw o Ffyddlondeb' i Wilym III yn 1696, a bu'n selog amddiffyn y canghellor Somers. Daliodd swydd yn y Llys dan Wilym a Mari, ond collodd ffafr y frenhines Anne, a bu farw 24 Ionawr 1725-6 'within the Fleet,' h.y. yn fethdalwr. Beth yn union a ddaeth o Lanelwedd ar y pryd, nid eglurir yn unman, ond daw i'r golwg yn nes ymlaen yn eiddo i Gwynniaid y Garth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.