GWYN
,
FRANCIS
(
1648?
-
1734
),
gwleidydd
,
mab ac etifedd
Edward
Gwyn
o
Lansannwr
,
sir Forgannwg
, ac
Eleanor
, merch ieuaf
Syr
Francis
Popham
o
Littlecott
,
swydd Wilts
; g. yn
Combe Florey
,
Gwlad yr Haf
, yn
1648 neu 1649
. Ymaelododd yng
Ngholeg Eglwys Crist
,
Rhydychen
,
1 Mehefin 1666
, yn 17 mlwydd oed, a daeth yn
efrydydd
o'r
Middle Temple
yn
1667
.
Galwyd ef i'r bar
ond yn ddiweddarach gadawodd y
gyfraith
ac ymroddodd i
wleidyddiaeth
. Rhwng
1673
a
1727
eisteddodd mewn 15 senedd a chynrychiolodd amryw etholaethau, gan gynnwys
Caerdydd
,
1685-7
. Yr oedd yn
Dori
a chyfaill mynwesol i
Rochester
. Daliodd swyddi pwysig a bu yn
Ysgrifennydd Rhyfel
,
1713-4
. Penodwyd ef yn
siambrlen Brycheiniog
,
15 Hydref 1681
. Trwy ei briodas â
Margaret
, trydedd ferch
Edmund
Prideaux
, cafodd stadau
Ford Abbey
yn
Nyfnaint
; bu f. yn
Ford Abbey
2 Mehefin 1734
.
Dilynwyd ef gan ei fab,
FRANCIS
GWYN
, a fu f. heb blant. Wedi ei farwolaeth ef disgynodd eiddo
Llansannwr
i
ANTHONY
GWYN
, cefnder iddo. Ar ôl ei farwolaeth yntau, darfu teulu
Gwyn
, cangen o'r
Herbertiaid
.
Llyfryddiaeth:
-
Oxford Dictionary of National
Biography
;
-
W. R. Williams
,
The History of the Parliamentary
Representation of Wales
, 1895
;
-
Foster
,
Alumni Oxonienses
;
-
G. T. Clark
Limbus Patrum Morganiae et
Glamorganiae
, 1886
.
Awdur:
Walter Thomas Morgan (1912-90), Aberystwyth