GWALCHMAI, HUMPHREY (1788 - 1847), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Humphrey Gwalchmai
Dyddiad geni: 1788
Dyddiad marw: 1847
Rhiant: Edward Gwalchmai
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

- na chymysger ef â'r bardd ' Gwalchmai ' (Richard Parry, 1803 - 1897). Ganwyd 14 Ionawr 1788, yn fab i Edward Gwalchmai (1757 - 1799), Dolgar, Llanwyddelan - treftadaeth sylweddol a fu ym meddiant y teulu am bedair cenhedlaeth. Dechreuodd weithio'n fore gyda chrefydd, yn enwedig gyda'r ysgol Sul; codwyd ef yn flaenor yn 17 oed, a dechreuodd bregethu 'n 19, er mai ail iaith oedd y Gymraeg iddo. Priododd yn 1813, a symudodd i Lanidloes i agor masnach. Cytunodd yn ffurfiol yn 1816 i fugeilio Methodistiaeth y dre; dyma'r tro cyntaf yng Ngogledd Cymru, ac efallai yng Nghymru gyfan, i'r fugeiliaeth swyddogol gael ei chydnabod ym mysg y Methodistiaid Calfinaidd. Ordeiniwyd ef yn 1819, ac yn 1820 dewiswyd ef yn ysgrifennydd Cymdeithasfa'r Gogledd; daliodd y swydd hyd 1830. Yn ystod y cyfnod hwn y ffurfiwyd Cyffes Ffydd (1823) a Gweithred Gyfansoddiadol (1826) y Methodistiaid Calfinaidd, ac yr oedd Gwalchmai, yn ei swydd, yn un o ddau ysgrifennydd y cydbwyllgor a'u lluniodd - efe a eiriodd yr erthyglau 18 a 41-44 yn y Gyffes. Cwympodd i adfyd mawr yn 1832; yn ei ymgolli mewn pregethu a chyfundrefnu yr oedd wedi esgeuluso'i amgylchiadau (llewyrchus gynt), ac yn neilltuol wedi cael colledion mewn gwaith plwm yn y Tylwch; ac aeth yn fethdalwr. Ar waethaf cydymdeimlad pawb, rhaid oedd ei atal rhag gwaith y weinidogaeth. Gwir ddarfod ei edfryd i hwnnw yn 1840, ond ni ddaeth ei fyd da byth yn ôl iddo. Symudodd i Groesoswallt yn 1842, a bu farw yno 29 Mawrth 1847; claddwyd ym mynwent yr Adfa, Llanwyddelan. Yn 1836, yr oedd wedi cychwyn cylchgrawn, Yr Athraw, a daliodd i'w olygu hyd 1844. Gellir ystyried hwn yn rhagflaenydd i'r Traethodydd - bron yn swyddogol felly, oblegid cytunwyd o bobtu i'r naill roi'r ffordd i'r llall. Yr oedd Humphrey Gwalchmai, o ran hynny, yn llawer pwysicach dyn yn ei ardal a'i gyfnod nag a ellir ei ddangos mewn crynodeb byr o'i yrfa.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.