GUEST (TEULU), meistri gweithydd haearn a glo, etc.

SYR JOSIAH JOHN GUEST (1785 - 1852), meistr gweithydd haearn a glo, ac aelod seneddol

Mab ydoedd J. J. Guest i Thomas Guest (bu farw 1807), Dowlais, meistr gwaith haearn, mab y John Guest (1722 - 1785) a ddaeth o Broseley, Swydd Amwythig, i ofalu am y gwaith haearn bach yn Dowlais yn 1759 ac a oedd erbyn 1782 yn berchen cyfran yn y Dowlais Iron Co. Dilynwyd John Guest fel goruchwyliwr gan ei fab Thomas Guest yn 1785; o dan ei ofal ef llwyddodd y gwaith yn fawr, dechreuwyd defnyddio ager i yrru'r peiriannau, agorwyd masnachdy bwyd, etc., gan y cwmni, gwnaethpwyd ffwrneisiau newydd - a golygai hyn fod eisiau codi mwy o lo - ac adeiladwyd gefail gof. Erbyn adeg Benjamin Malkin (1805-6) yr oedd gweithydd Dowlais yn cynhyrchu 5,432 tunnel o haearn brwd, er bod gweithydd teulu Homfray yn Penydarren a gweithydd Cyfarthfa yn parhau i fod yn fwy pwysig.

Ganed Josiah John Guest yn Dowlais, naw mis cyn marw ei daid, yr arloesydd, sef 2 Chwefror 1785. Cafodd ei addysg yn Bridgnorth ac ysgol ramadeg Trefynwy. Daeth yn feistr trwyadl ar holl fanylion y diwydiant haearn; yr oedd hefyd yn wastad yn ystyried y pwysigrwydd o fanteisio ar ddefnyddio gwybodaeth o gemeg a pheirianwaith. Oblegid hyn oll, ynghyd â'i fentr a'i allu creadigol, a thrwy barhau i adeiladu gefeiliau, ffwrneisiau, a melinau newydd, llwyddodd i godi gwaith Dowlais o'r trydydd lle ym Merthyr i'r lle cyntaf a'i wneuthur yn fwy pwysig na Chyfarthfa hyd yn oed - y gwaith enwog hwnnw a ystyrid hyd yn hyn y pwysicaf yn y byd. Erbyn y flwyddyn 1840 yr oedd yn Nowlais 18 o ffwrneisiau, 12 yn Cyfarthfa, wyth yng ngwaith Hill (Plymouth), tra nad oedd yn Penydarren onid chwech. Cyflogid y pryd hwn yn Nowlais 1,000 o lowyr, yr oedd 1,000 yn cloddio am haearn, 2,500 yn y gwaith ei hunan, ac yr oeddid yn codi 1,400 tunnell o lo bob dydd ar gyfer y ffwrneisiau. Daeth y perchenogion yn gyfoethog ac yn wyr o ddylanwad; heblaw bod yn oruchwyliwr ar y gwaith mawr hwn llwyddodd Guest ei hunan i wella ei safle ymhlith y partneriaid - 1/16 o gyfran oedd ganddo pan fu ei dad farw, eithr derbyniodd 8/16 yn ychwaneg pan fu farw ei ewythr, William Taitt, yn 1815. Erbyn 1849 efe oedd yr unig berchennog, ac felly yr oedd lles a llwyddiant dros 12,000 o bobl yn dibynnu'n gyfan gwbl ar y defnydd a wnâi ef o'r holl awdurdod a oedd yn ei ddwylo; yn hyn fe'i cynorthwyid gan ei wraig dalentog, y Lady Charlotte Elizabeth Bertie Guest. Enillodd enw da iddo'i hun pan sefydlodd y 'Dowlais Central Schools,' a gyfrifid ar y pryd y gorau yn yr holl wlad - yn Nowlais y dechreuwyd gyntaf oll yn Ne Cymru roddi arbrawf ar gynllun ysgolion oedolion. Llywyddodd mewn cyfarfod a alwyd ynghyd yn Merthyr gyda'r amcan o gychwyn ' Literary and Scientific Institution.' Wedi hynny, sefydlodd yn Nowlais lyfrgell gweithwyr; rhoddodd hefyd 180 o gyfrolau, Cymraeg a Saesneg, i'r llyfrgell ym Merthyr yr oedd Thomas Stephens yn ysgrifennydd iddi. Rhoes arian at gynnal yr Ysgolion Cenedlaethol ym Merthyr ac Aberdâr, ac i gronfa adeiladu Ysgol Frutanaidd ('Ysgol y Comin'), Aberdâr. Yr oedd ef a'i wraig yn noddwyr Cymreigyddion y Fenni yn 1834 ac efe oedd llywydd yr ail gyfarfod yn y Fenni yn 1835. Yn eisteddfod y flwyddyn 1848 enillodd Thomas Stephens y wobr am ei ' History of the Literature of the Kymry,' traethawd gwerthfawr, a chynigiodd Guest ymgymryd â chost ei gyhoeddi.

Bu Guest yn aelod seneddol (Ceidwadwr) dros Honiton o 1825 hyd 1831. Trwy ei ddylanwad ef yn bennaf y llwyddwyd i greu etholaeth newydd bwrdeisdref Merthyr (gan gynnwys Aberdâr a Vaynor). Etholwyd ef yn ddiwrthwynebiad gan yr etholaeth newydd hon yn 1832 'fel Rhyddfrydwr ' (yn credu hefyd mewn masnach rydd) - yr aelod seneddol cyntaf dros Merthyr Tydfil, a chadwodd y sedd hyd ei farwolaeth, 26 Tachwedd 1852. Yn 1838 fe'i gwnaethpwyd yn farwnig.

Serch ei ddwyn i fyny yn Wesle, rhoes Guest £3,000 yn 1827 at adeiladu eglwys Dowlais; rhoes hefyd £250 tuag at eglwys newydd S. David ym Merthyr. Efe oedd prif gychwynnwr y Taff Vale Railway a'i chadeirydd cyntaf. Efe a Crawshay Bailey oedd prif arloeswyr yr Aberdare Railway Company (a gymerwyd drosodd yn ddiweddarach gan y Taff Vale Railway Co.). Yr oedd ganddo ariandy yng Nghaerdydd, a changen ohono ym Merthyr, eithr fe'u caewyd yn 1825 oblegid gwrthwynebiad gan y Llywodraeth. Sefydlodd ariandy cynilo yn Nowlais a pharhaodd i'w gefnogi. Yn 1830 fe'i hetholwyd yn F.R.S., ac yn 1834 daeth yn 'Associate of the Institution of Civil Engineers.'

Yn 1837 llywyddodd Guest mewn cyfarfod o rai o drigolion Merthyr a alwyd ynghyd i ystyried y cwestiwn o gael Deddf seneddol i wneuthur Merthyr yn gorfforaeth. Bu raid i'r dref aros, fodd bynnag, am yn agos i 70 mlynedd cyn cael hyn - nid etholwyd y maer cyntaf hyd 1906. Dewiswyd Guest, 1 Ebrill 1837, yn gadeirydd cyntaf bwrdd gwarcheidwaid Merthyr. Wedi i un o swyddogion Bwrdd Iechyd y Llywodraeth ymweld â Merthyr i ystyried cais gan y dref i fabwysiadu Deddf Iechyd y Cyhoedd (1848), ac oblegid y difrod a wnaethpwyd gan y colera yn 1849, ffurfiwyd bwrdd iechyd Merthyr yn 1850 gyda Guest yn gadeirydd cyntaf iddo - y bwrdd iechyd hwn ydoedd tad cyngor dinesig Merthyr (corfforaeth Merthyr yn awr) Pan fu trigolion Merthyr yn cynnal cyfarfodydd ym mis Mai y flwyddyn honno gyda'r bwriad o adeiladu neuadd drefol a fyddai'n deilwng o dref mor bwysig ac yn gwahodd tanysgrifiadau, addawodd Guest gyfrannu £1,000 i'r gronfa.

Yn ystod ei flynyddoedd olaf, yn Canford Manor, swydd Dorset, yr oedd Guest yn byw, ond pan oedd angau'n agosáu dychwelodd i Ddowlais, ac yno y bu farw ac y claddwyd ef.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.