GRYFFYTH, JASPER (bu farw 1614), clerigwr warden ysbyty Rhuthyn, caplan yr archesgob Bancroft, casglwr llawysgrifau

Enw: Jasper Gryffyth
Dyddiad marw: 1614
Priod: Mary Gryffyth
Plentyn: Anne Gryffyth
Plentyn: Marye Gryffyth
Plentyn: Elizabeth Gryffyth
Plentyn: Bartholomew Gryffyth
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr warden ysbyty Rhuthyn, caplan yr archesgob Bancroft, casglwr llawysgrifau
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Evan David Jones

Ni wyddys ddim manylion am ddechrau ei yrfa nac am ei gwrs addysg. Ymddengys mai brodor o Gegidfa, ger y Trallwng, ydoedd; yr oedd ganddo eiddo yno, a gadawodd arian i dlodion y plwyf hwnnw i'w rhannu gan ei frawd Robert. Yr oedd yn ŵr o ddysg ac ysgrifennai ei enw mewn llythrennau Hebraeg yn ei lawysgrifau. Daeth o dan nawdd Gabriel Goodman, deon Westminster, sefydlydd ysbyty Crist, Rhuthyn, a daliodd nifer o fywiolaethau eglwysig, rhai ohonynt, o leiaf, drwy ffafr y deon. Yr oedd yn rheithor Longstone, sir Fynwy, o 1595 i 1601, rheithor rhan gyntaf Llansannan o 1605 i 1614, warden ysbyty Rhuthyn o 1599 i 1606, ficer Hinckley, ger Leicester, o 1600 hyd ei farwolaeth yn 1614. Gwnaeth ei ewyllys ar 18 Mai, profwyd hi 28 Mai, a chladdwyd yntau yng nghangell eglwys Hinckley 25 Mai. Enwa'i wraig Mary, ei fab Bartholomew, a'i ferched Elizabeth, Marye, ac Anne, gyda'r awgrym fod y plant dan oed. Merch John Roberts, y Parc, Llanfrothen, oedd ei wraig. Mewn llythyr at Syr Robert Cotton, 1613, enwa Jasper Gryffyth 40 o lawysgrifau Lladin a oedd yn ei feddiant, a darnau eraill mewn Cymraeg a Lladin (B.M. MS. Cotton Jul. C. iii). Bu rhai o'r prif lawysgrifau Cymraeg drwy ei ddwylo, e.e. Llyfr Du Caerfyrddin , Llyfr Gwyn Rhydderch , Peniarth MS 44 a Peniarth MS 53 , Brut Dingestow (NLW MS 5266B ), Buchedd Gruffudd ap Cynan (Peniarth MS 17 ), a dwy lawysgrif o gyfraith Hywel yn yr Amgueddfa Brydeinig (Harleian MS. 4353, a Cotton. Cleopatra B. v). Ysgrifennodd Llanstephan MS 120 , a rhannau o Peniarth MS 316 a B.M. Cotton. Vesp. A. vi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.