GRUFFUDD, RHISIART (Rhisiart Gruffudd ap Huw ?) (fl. c. 1569), bardd, a brodor o Fôn

Enw: Rhisiart Gruffudd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Nid oes dim o hanes ei fywyd ar gael, ond ceir peth o'i waith mewn llawysgrifau. Cynnwys ddau englyn (B.M. Add. MS. 14898 (42b); NLW MS 3037B (324); cywydd i ofyn cymod Syr Rhisiart Bwlclai o Fôn a'i ail wraig, Annes, yn NLW MS 3048D (490) - cyhuddwyd hi o roi gwenwyn i'w gŵr; gweler Angharad Llwyd, History of Anglesey, 143); a chywydd i ofyn cymod rhwng Syr Rhisiart Bwlclai a Wiliam Lewys o Fôn (NLW MS 3047C (508)). Nid yw'n sicr ai efe yw'r Rhisiart Gruffudd ap Huw y ceir ei farddoniaeth yn Llanstephan MS 49 (93), NLW MS 5283B (51, 122), NLW MS 9166B (251).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.