Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GRUFFUDD LLWYD ap DAFYDD ab EINION LLYGLIW ( fl. c. 1380-1410 ), bardd , nai i'r bardd Hywel ab Einion Llygliw , a brodor o blwyf Llangadfan ym Mhowys ; yn ôl marwnad Rhys Goch Eryri iddo ymddengys ei fod yn un o ddisgynyddion Einion Yrth . Yn Cardiff MS. 18 (190) dywedir ei fod yn ‘ siawnsler o eglwys Henffordd ,’ ond ni wyddys am ddim sy'n ategu hyn. Yr oedd yn un o feirdd pwysicaf a galluocaf ei gyfnod, ac yn gyfarwydd â hen lenyddiaeth a chwedloniaeth Cymru . Croesewid ef yn rhai o lysoedd enwocaf ei wlad, ac ymhlith ei gywyddau i uchelwyr ei gyfnod ceir rhai i Owain Glyndŵr , Syr Dafydd Hanmer , Owain ap Maredudd o'r Neuadd Wen , a Hywel a Meurug Llwyd o Nannau . Canodd gywyddau serch, a chywyddau ac awdlau crefyddol; efe hefyd biau'r cywydd i ddanfon yr haul i annerch Morgannwg , a briodolir hefyd i Iolo Goch ac i Dafydd ap Gwilym (gw. B.B.C.S. , i). Cywydd marwnad Rhys Goch Eryri iddo oedd dechrau'r ymryson rhwng y bardd hwnnw a Llywelyn ap y Moel ; canmolir Gruffudd hefyd yng nghywydd ateb Llywelyn .

Llyfryddiaeth:

  • Jones a Lewis , Mynegai i Farddoniaeth y Llawysgrifau , a , 1928 ;
  • Llawysgrif Bodewryd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 1;
  • Llawysgrifau Brogyntyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. 1, 2, 5;
  • Llawysgrifau Cwrtmawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 204, 244, 312;
  • Llawysgrif Esgair yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 95 (N.L.W.);
  • Llawysgrif Gwysaney yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 25;
  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 643, 1246, 1247, 1559, 2026, 3077, 4710, 5273, 5283, 6511, 6681, 8330, 13071, 13081, 13167, 13168;
  • Lewis , Roberts , a Williams , Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, 1350–1450 , 1925, 1937 , 1925 ( Thomas Roberts , lxxviii, 123, 161);
  • Bulletin of the Board of Celtic Studies , i, 235;
  • Edward Jones , Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards… , 1784; arg. arall., 1794 , 1794 , 39;
  • T. Pennant , A Tour (Tours) in [North] Wales , 1773. 1778, etc , 1883 , iii, 297;
  • ‘Dictionary of Welsh Biography.’ 27 cyf., N.L.W. MSS. 9251–77 ;
  • J. Davies , Antiquæ linguæ Britannicæ et linguæ Latinæ, dictionarium duplex , 1632 .

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni