GRUFFYDD ap RHYS
(bu f.
1201
),
tywysog Deheubarth
;
mab hynaf
Rhys ap Gruffydd
a
Gwenllian
, merch
Madog ap Maredudd
. Fel sylfaenydd llinach hynaf disgynyddion yr
Arglwydd Rhys
efe a nodid yn etifedd tiroedd pennaf ei dad yn
Ystrad Tywi
a chydnabyddid ef fel hynny gan yr awdurdodau
Seisnig
. Ar y cyfan rhoddwyd cyfeiriad i brif ddigwyddiadau ei yrfa fer gan uchelgeisiau ei wrthwynebwyr — ei frawd
Maelgwn
[q.v.]
a
Gwenwynwyn
[q.v.]
o
Bowys
; o'r herwydd, ansicr hyd y diwedd oedd ei afael ar ei etifeddiaeth. Mewn un ystyr gellir edrych ar ei yrfa fel math o ragarweiniad i'r cwerylon teuluol dinistriol hynny a arweiniodd i gwymp terfynol teulu
Dinefwr
. Yn
1189
priododd
Matilda
, merch
William de
Breos
, a'i goroesodd, gyda dau fab ieuanc,
Rhys Ieuanc
ac
Owain
, pan fu f. ar
25 Gorffennaf 1201
. Claddwyd ef a
Matilda
yn
Ystrad Fflur
.
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964),
Aberystwyth