GRUFFYDD ap RHYS
(
c.
1090
-
1137
)
tywysog Deheubarth
;
mab
Rhys ap Tewdwr
[q.v.]
a
Gwladus
, merch
Rhiwallon ap Cynfyn
. Pan dorrodd hen frenhiniaeth y De i lawr ar farw
Rhys ap Tewdwr
yn
1093
, aethpwyd â'r aer,
Gruffydd
, nad oedd eto namyn plentyn, i
Iwerddon
, lle y cafodd gartref a lloches yn ystod ei blentyndod a thra yr ydoedd yn tyfu i fod yn ddyn. Pan ddychwelodd yn
1113
amharwyd ar gymorth gwlatgar ei gyfoedion ieuanc gan agwedd ofnus a gofalus rhai personau o awdurdod yn y wlad nad oedd eto'n teimlo y dylid gwrthsefyll teyrnasiad y
Normaniaid
. Ymhlith y personau hyn yr oedd
Gruffydd ap Cynan
, a oedd yn barod i drosglwyddo ei gâr ieuanc i
Harri
I
pan geisiodd hwnnw, sef
Gruffydd ap Rhys
, loches yng
Ngwynedd
. Yr oedd y safiad gwrthwynebol a gyrhaeddodd ei uchafbwynt yn y gwrthryfel yn
1116
yn rhwym o fethu yn ei amcan. Serch hynny daeth
Gruffydd ap Rhys
i delerau â
Harri
a rhoddwyd iddo dir yng nghymwd
Caeo
. Oddigerth am gyfnod byr yn
1127
pryd y bu'n alltud yn
Iwerddon
am yr eiltro, ymddengys i
Gruffydd
dreulio bywyd tawel yn y
Deheubarth
hyd ar ôl marw
Harri
. Yno, y mae'n ddiau, y ganed
Maredudd
a
Rhys
, ei feibion o
Gwenllian
, merch
Gruffydd ap Cynan
; y mae'n debyg mai meibion o uniad cynharach oedd
Anarawd
a
Chadell
. Cymerth ran flaenllaw yn y gwrthryfel a ymledodd trwy
Gymru
pan fu
Harri
f. ac yr oedd yn bresennol ym
mrwydr bwysig Crug Mawr
,
1136
. Bu f. y flwyddyn wedyn; yr oedd
Gwenllian
, ei wraig nodedig, wedi marw o'i flaen. Ei fab
ieuengaf,
Rhys
[q.v.]
, a gafodd y gwaith o ail-sefydlu ffortiwn y teulu.
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964),
Aberystwyth