Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GRUFFYDD ap RHYDDERCH ap IESTYN (bu f. 1055 ), brenin . Pan feddiannwyd y Deheubarth gan Gruffydd ap Llywelyn [q.v.] yn 1044 , rhoddwyd ynni newydd i wrthwynebiad y De; gan arweiniad Gruffydd ap Rhydderch ; felly adenillodd ei hannibyniaeth yn 1045 . Rhoddodd Gruffydd i'w wlad fabwysiedig lywodraeth rymus a nodweddwyd gan wrthwynebiad i'r Daniaid . I raddau gellir priodoli ei hawl i ymyrryd yn helyntion Deheubarth i'r ffaith i'w dad lwyddo i gipio'r awdurdod yno rhwng 1023 a 33 . Yn ychwanegol yr oedd Gruffydd eisoes yn frenin ym Morgannwg — ar Wynllwg mae'n debyg — a bu gan ei ddisgynyddion fesur o awdurdod yno hyd 1270 .

Llyfryddiaeth:

  • A History of Wales , ii, 361-4, table 771;
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1899-1900 , et seq.

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth