GRUFFUDD ap LLYWELYN
(bu f.
1063
),
brenin Gwynedd a Phowys, ac ar ôl 1055 brenin Cymru oll
;
mab
Llywelyn ap Seisyll
(bu f.
1023
)
ac
Angharad
ferch
Maredudd ab Owain
,
brenin Deheubarth
. Prin yw'r wybodaeth am ei ieuenctid ond cadwyd rhai traddodiadau yn straeon
Gwallter
Map
[q.v.]
. Fel llanc yr oedd yn araf a diantur, meddir, ond yn ddiweddarach fe'i trowyd gan uchelgais yn ŵr dewr, beiddgar, wedi'i ddonio â dychymyg ac unplygrwydd. Pan laddwyd
Iago ab Idwal
yn
1039
gan ei wŷr ei hun, daeth
Gruffudd ap Llywelyn
yn
frenin
Gwynedd
a
Phowys
. Yn union wedyn trawodd ergyd yn erbyn
Saeson
Mercia
ym
mrwydr Rhydygroes-ar-Hafren
a gyrrodd hwynt yn waedlyd ar ffo. Dug y fuddugoliaeth hon ef i amlygrwydd, ac o hyn hyd ei farwolaeth parhaodd yn darian i'w wlad ac yn ddychryn i'w gelynion. Ar ôl taro gwŷr
Mercia
a sicrhau'r gororau troes ei sylw at y
Deheubarth
, lle yr oedd
Hywel ab Edwin
yn
frenin
. Ni wyddys llawer am yr ymrafael rhwng y ddau, ond yn
1040
ymosododd
Gruffudd
ar
Ceredigion
a llosgi
Llanbadarnfawr
. Yn
1041
bu
Gruffudd
eilwaith yn fuddugol ar
Hywel
ym
mrwydr Pencader
, ond ni lwyddodd i'w lwyr drechu, achos yn
1042
gorchfygodd
Hywel
lu'r
Cenhedloedd Duon
yn
Mhwlldyfach
(heddiw
Pwlldyfarch
) ger
Caerfyrddin
. Dwy flynedd wedyn (
1044
) dug
Hywel
lynges o'r
Cenhedloedd Duon
gydag ef o
Iwerddon
ond fe'i
lladdwyd mewn brwydr
ffyrnig yn erbyn
Gruffudd
yn
Abertywi
. Hyd yn oed ar ôl hyn ni allodd
Gruffudd
feddiannu
Deheubarth
; cododd
Gruffudd ap Rhydderch ap Iestyn
i'w wrthwynebu. Yn
1045
, yn ôl
B.T.
(
Pen. MS. 20, 18a
), bu twyll mawr a brad rhwng
Gruffudd ap Rhydderch
a'i frawd
Rhys
a
Gruffudd ap Llywelyn
. Bu'n rhaid i
Ruffudd
gael help
Swegen fab Godwin
i geisio cynnal ei awdurdod yn
Neheubarth
. Yn
1147
lladdwyd tua 140 o ‘deulu’
Gruffudd
drwy dwyll uchelwyr
Ystrad Tywi
, ac i ddial hynny anrheithiodd
Gruffudd
Ddyfed
ac
Ystrad Tywi
; ond ni allodd wneud mwy na hynny ac am yr wyth mlynedd ar ôl hynny yr oedd gan
Ruffudd ap Rhydderch
afael sicr ar
Ddeheubarth
. Troes
Gruffudd ap Llywelyn
ei egnïon i gyfeiriad arall; yn gynnar yn haf
1052
cyrchodd i wlad
Henffordd
a gorchfygodd lu cymysg o
Saeson
a
Normaniaid
ger
Llanllieni
. Yn
1055
lladdodd
Ruffudd ap Rhydderch
a chael meddiant o
Ddeheubarth
o'r diwedd. Hefyd, mewn cynghrair ag
Ælfgar
o
Fercia
, ymosododd ar
Saeson
a
Normaniaid
Henffordd
o dan
iarll
Ralph
, gyrrodd hwynt ar ffo a llosgodd y dref. Gyrrwyd
Harold
Iarll
i ddial yr ymosodiad ond ni lwyddodd ond i atgyweirio
Henffordd
a
dod i delerau gydag
Ælfgar
. Yn
1056
dug
Leofgar
,
esgob Henffordd
, fyddin yn erbyn
Gruffudd
ac ar
16 Mehefin
bu brwydr rhyngddynt yn
nyffryn Machawy
. Unwaith eto bu
Gruffudd
yn fuddugol. Wedyn trwy ymdrechion yr ieirll
Harold
,
Leofric
o
Fercia
, ac
Ealdred
o
Gaerwrangon
daethpwyd i gytundeb a thyngodd
Gruffudd
ffyddlondeb i'r
brenin
Edward
. Tua'r adeg yma hefyd priododd
Gruffudd
Ealdgyth
ferch
Ælfgar
, a phan alltudiwyd
Ælfgar
drachefn yn
1058
helpodd
Gruffudd
ef, gyda chynhorthwy
Magnus
Haroldson
, i ennill ei diroedd yn ôl. Yr oedd y cytundeb agos rhwng
Gruffudd
ac
Ælfgar
yn sicrhau diogelwch i
Gymru
, ond tua diwedd
1062
, pan oedd
Ælfgar
wedi marw, ymosododd
Harold
Iarll
yn ddirybudd ar lys
Gruffudd
yn
Rhuddlan
ond llwyddodd
Gruffudd
i ddianc. Yn
1063
lladdwyd
Gruffudd
‘
drwy dwyll ei wŷr ei hun
,’ medd
B.T.
, wedi iddo fod
‘yn ben ac yn darian ac yn amddiffynnwr i'r
Brytaniaid
.’
Gadawodd
Gruffudd
ddau fab,
Maredudd
(bu f.
1070
) ac
Idwal
(bu f.
1070
), ac un ferch,
Nest
, yr hon a briododd
Osbern
FitzRichard
.
Llyfryddiaeth:
-
Annales Cambriae
. Rolls Series, 1860.
(Cyfeirir hefyd at yr adran o'r a olygwyd gan
Egerton Phillimore yn , ix.)
;
-
Brut y Tywysogion, Peniarth MS
. 20,
1941
(Pen. 20),
1941
;
-
Walter Map
,
De Nugis Curialium
, Camden Soc., 1850,
1914, Cymmrodorion Record Series 9, 1923
, Dist. xxii-xxiii;
-
Lives of Edward the Confessor
,
1858
(ed.
Luard
), 425;
-
The Anglo-saxon chronicle
;
-
Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y
Cymmrodorion
,
1899-1900
;
-
A History of Wales
, ii. 358 ff.
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones, D.Litt., Aberystwyth